drum_up_a_circus_-_film_lead.png

syrcas yn cadw rhythm drwm gwahanol mewn ffilm fer newydd

Cwmpeini |

Yn ystod yr haf eleni, bydd cwmni syrcas o Gymru, NoFit State Circus, yn rhyddhau ffilm llawn awyrgylch, ar y cyd â chwmni Circus Zambia ac Ingoma Nshya, sef grŵp drymio i ferched yn Rwanda. Mae’r ffilm fer yn hoelio’r sylw, gan drafod eu cryfderau unigryw a’u bywydau bob-dydd, a herio rolau traddodiadol dynion a menywod mewn cymdeithas, a’r cyfan yng nghyd-destun problemau ymarferol pandemig byd-eang.

 

Bydd y cyfle cyntaf i weld y ffilm hanner awr sy’n cyflwyno’r bartneriaeth ar gyfrif YouTube NoFit State. Yna, caiff ei rhannu ar blatfformau ar-lein y tri chwmni i ddathlu un o’r cyd-brosiectau mwyaf cyffrous erioed rhwng Cymru ac Affrica. Mae’r ffilm yn gweithio trwy bedair ‘pennod’, pob un yn dogfennu rhan o daith y partneriaid dros ddeuddeg mis, tair gwlad, dwy ddisgyblaeth, pandemig byd-eang, galwadau fideo dirifedi a chysylltiad rhyngrwyd a oedd yn aml yn chwit-chwat.

 

Mae Circus Zambia yn gwmni syrcas cymdeithasol, bywiog ac ifanc ei ysbryd sy’n dysgu sgiliau syrcas a sgiliau bywyd i bobl ifanc o gefndiroedd bregus yn nhreflan Lusaka a’r cylch ac yn cynnig cyfleoedd iddynt gael addysg a gwaith. 

 

“It’s been an amazing journey. A shared experience throughout the creative process of this film, while facing the global pandemic. A great opportunity for all three organizations to reflect, laugh, show and learn from the exploration. A beautiful way to share our own narratives while challenging the status quo on gender roles.”

Gift Chansa, Artistic Director, Circus Zambia (Zambia)

  

Mae NoFit State Circus yn gwmni syrcas gyfoes blaenllaw o Gymru a sefydlwyd dros 30 mlynedd yn ôl. Maent yn cynnal prosiectau cymunedol a chyfranogol yng Nghymru ac yn mynd â sioeau mawr big top ar daith i bedwar ban byd.

 

“I am so proud that we were able to continue this collaboration and deliver an amazing project, even if not in the form that any of us had originally imagined. Hopefully one day we will be able to come together to create the live show that we originally intended. In the meantime, we hope you enjoy this short film.”

Alison Woods, Executive Director, NoFit State Circus (Wales)

 

Ingoma Nshya yw’r grŵp drymio cyntaf erioed i ferched yn Rwanda. Mae eu gwaith yn cyplysu datblygiad y merched y maen nhw’n gweithio gyda nhw yn Rwanda â’r diwylliant drymio traddodiadol, gan ymdrechu i gywiro’r anghydbwysedd sy’n parhau rhwng dynion a menywod.

“Juggling with the drum sticks is as magical as I dreamt it! From now on, our drum sticks will keep flying…”

Odile Gakire Katese, leader of Ingoma Nshya (Rwanda)

 

Mae’r bartneriaeth wedi helpu’r tri chriw i ddysgu mwy am ei gilydd, canfod ffyrdd newydd o weithio ac ystyried safbwyntiau gwahanol wrth greu’r ffilm gyffrous hon. Mae’r ffilm fer ddymunol a meddylgar yn cyfleu’r daith greadigol y buont arni, gan gyfuno’u sgiliau a’u safbwyntiau unigryw i greu rhywbeth sy’n herio syniadau a gaiff eu cymryd yn ganiataol am eu perfformwyr a’u mathau o gelfyddyd.

 

“Drum up a Circus is a wonderful project that brought together three extraordinary performing arts companies from Rwanda, Zambia and Wales, UK as part of the British Council’s new Art new Audiences programme. The commitment of each group to learn from each other to create and share a journey together continued to shine through changing circumstances and enabled a process that challenged perspectives and lifted the spirits. This film documents that story.”

James Tyson, Theatre & Dance Programme Manager, British Council

 

Gwnaed prosiect Drum up a Circus yn bosibl diolch i gyllid gan y Cyngor Prydeinig, The Moondance Foundation, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, 11.11.11, Art Ubuhanzi Rwanda, Cronfa Diwylliant Affrica a chefnogaeth garedig Canolfan Diwylliant Menywod yn Rwanda.

 

 

Bydd y cyfle cyntaf i weld Drum up a Circus ar gyfrif YouTube NoFit State ddydd Gwener 20 Awst am 1pm BST / 2pm CAT.

 

Dilynwch y ddolen hon i weld y dangosiad cyntaf: https://youtu.be/GjysvxdYK8k