Circus-Punks-Website-Banner.jpeg

circus punks

Perfformiad heriol gan gymuned hynod ddawnus NoFit State yw Circus Punks.

Bu’r perfformiad cyntaf erioed o Circus Punks nos Sadwrn 2 Mawrth 2019 gyda detholiad o actiau anarchaidd a ddatblygwyd gan ein cymuned ryfeddol o ddysgwyr a pherfformwyr proffesiynol, yng nghwmni nifer o ffrindiau arbennig NoFit. Ysbrydolwyd y sioe gan ysbryd cyfnod y pyncs, a’r nod oedd aflonyddu ar y system saff.

cyfarwyddwyd gan nicola hemsley

Cafodd Nicola ei hyfforddi’n actores ar raglen Celfyddydau Theatr Cymunedol yng ngholeg drama Rose Bruford ac fe syrthiodd mewn cariad â syrcas yn 1990. Cymerodd 17 mlynedd iddi gychwyn ar yrfa broffesiynol ym myd y syrcas ac ymroi yn llwyr i’r gelfyddyd. A hithau’n Gymraes i’r carn o’r Cymoedd, Nicola yw sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Organised Kaos Youth Circus. Ei chryfder mawr wrth gyfarwyddo yw ei gallu i dynnu’r gorau o’r gymuned a’i droi’n gyflwyniad proffesiynol. Rydym wrth ein bodd ei bod hi’n ymuno â ni ar gyfer y cynhyrchiad cymunedol arbennig hwn gan NoFit State.

noddwyr

Fyddai’r perfformiad cyntaf erioed o Circus Punks ddim wedi gallu digwydd heb nawdd hael Eccentric Gin, Cardiff Speaker Hire a chynllun Prosper, Arts & Business Cymru. Diolch yn fawr i’r cefnogwyr arbennig hyn.

Sponsored by

aB.png
cardiff_speaker_hire.png
eccentric.png