support_web_header_4.jpg

arianwyr cyhoeddus, ymddiriedolaethau a sefydliadau

Mae’r gefnogaeth hanfodol a gawn gan arianwyr cyhoeddus, ymddiriedolaethau a sefydliadau yn newid bywydau, yn creu cynyrchiadau gyda'r gorau yn y byd ac yn cynnig man cychwyn ar gyfer y genhedlaeth nesaf o artistiaid a chwmnïau.

Mae ein partneriaethau gydag arianwyr cyhoeddus, ymddiriedolaethau a sefydliadau yn hollbwysig er mwyn cynnig profiadau a chyfleoedd sy’n newid bywydau unigolion, cymunedau, cynulleidfaoedd ac artistiaid yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r tu hwnt. Gyda'u cefnogaeth nhw, gallwn greu cynyrchiadau syrcas gyfoes arloesol o'r radd flaenaf a mynd â nhw ar daith; datblygu a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o artistiaid a gweithwyr syrcas proffesiynol yn y Deyrnas Unedig; a chyflwyno ein rhaglen gymunedol greadigol, gan ymgysylltu â phobl o bob oed o gymunedau difreintiedig a rhai sydd wedi'u hymyleiddio, a'u hysbrydoli.

pic1_JPEG.jpg

arianwyr cyhoeddus

Rydym yn derbyn cyllid rheolaidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) a Chyngor Celfyddydau Lloegr (ACE). Cawsom gynnig cyllid o’r newydd o raglen fuddsoddi ACE 2023-26 fel Sefydliad Portffolio Cenedlaethol ac rydym yn cael ein hariannu fel rhan o Bortffolio Celfyddydau Cymru CCC.

Yn ogystal, rydym yn derbyn cymorth ychwanegol ar gyfer prosiectau penodol oddi wrth y rhain ac arianwyr cyhoeddus eraill, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Creative Scotland, Cyngor Caerdydd a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

pic3_JPEG.jpg

ymddiriedolaethau a sefydliadau

Sefydliad Paul Hamlyn: galluogi newid radical

Mae grant o Arts Access and Participation Fund PHF ar gyfer 2021-23 wedi arwain at gyfnod rhyfeddol a thrawsnewidiol i NoFit State – ac yn fwyaf arbennig i'r rhaglen gymunedol gyfan. Mae'r grant wedi rhoi cyfle i drafod a myfyrio, wedi galluogi'r cwmni i ddatblygu ffordd wahanol iawn o weithio, ac wedi helpu i adeiladu tîm newydd a rhaglen newydd. Mae eisoes wedi dangos ei fod yn sbardun ysbrydoledig ar gyfer newid ac, er mai dim ond ar ddechrau'r daith yr ydym, gallwn eisoes weld yr effaith ar staff, cyfranogwyr a phartneriaid, ac ar ein gwaith. Erbyn hyn, mae gennym raglen gymunedol sydd wedi newid yn sylweddol ac sy'n llawer mwy cynhwysol. Cafodd ei chyd-greu, gan ymateb i'r angen, a’i chydgynllunio â llu o bartneriaid cymunedol lleol.

Sefydliad Moondance: cyrraedd rhagor o bobl ddifreintiedg

Mae cyllid hael gan Sefydliad Moondance wedi'n galluogi i gyflwyno gwahanol brosiectau a chynlluniau syrcas gymunedol yn y gorffennol. Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid o’r newydd ar gyfer 2023-26, a fydd yn ein helpu i dyfu ac ehangu ein rhaglen gymunedol newydd gan ganolbwyntio ar fynediad a chynhwysiant, a chyrraedd rhagor o bobl yn y gymuned nad ydynt yn cael llawer o gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau syrcas a’r celfyddydau gan elwa ar effaith gadarnhaol hynny. 

4-4_JPEG.jpg

Sefydliad Garfield Weston: creu gwaith syrcas cyfoes newydd gyda'r gorau yn y byd

Cawsom gyllid sylweddol gan Sefydliad Garfield Weston yn 2021-22 i ddatblygu'n sioe newydd SABOTAGE. Bu'r sioe ar daith yng Nghymru a Lloegr trwy gydol 2022 a bydd yn ymweld â chyfandir Ewrop am y tro cyntaf yn 2023.

Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson, Ymddiriedolaeth Oakdale, Elusen Percy Bilton: dod â syrcas i'r gymuned leol

O gynnig gweithgareddau syrcas mewn ysgolion a pharciau lleol, i ddarparu offer awyr-agored y mae gwir angen amdanynt, mae’r grantiau hyn yn ein helpu i gyrraedd llawer o blant, pobl ifanc a phobl y mae gwahanol rwystrau'n eu hatal rhag ymwneud â'r celfyddydau yn ein cymuned leol yn Nwyrain Caerdydd.

Sefydliad Rayne a Sefydliad Hodge: gwneud syrcas yn hygyrch a chwalu rhwystrau

Mae ein gwaith gyda Sefydliad Rayne a Sefydliad Hodge wedi'n galluogi i ddarparu gweithgareddau syrcas hygyrch gan gynnig cyfleoedd hwyliog a chreadigol i blant a phobl ifanc niwroamrywiol gael profiad o syrcas. Mae'r gweithgareddau pwrpasol a hynod boblogaidd hyn yn meithrin hyder, yn gwella cyfathrebu ac yn eu hannog i fentro mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

(CY) Other funder part updates with A&B Awards Logo-1.7MB.jpg

arianwyr eraill

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – cadernid a chydweithio

Gyda chyfraniad o'r rhaglen Arian i Bawb, rydym yn gallu dyfnhau ac ehangu ein gwaith gyda rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Adamsdown, Sblot a Thremorfa. Rydym yn adeiladu ar lwyddiant Gŵyl Stryd Clifton yn 2022, gan gyd-greu a chyd-gynllunio gwaith gyda phobl leol, a chanfod ffyrdd creadigol o fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw sy’n gwaethygu'n gyflym.

Celfyddydau a Busnes Cymru – buddsoddi mewn pobl a phartneriaethau

Cawsom lawer o grantiau a chymorth arall gan Celfyddydau a Busnes Cymru dros y blynyddoedd. Daeth ein Cynorthwyydd Datblygu wych, Chieh-Ju Yang, i NFS yn 2021 gyda chefnogaeth rhaglen Interniaethau Creadigol C&B Cymru, ac mae grant CultureStep yn ein galluogi i ddyfnhau ein perthynas â Chymdeithas Tai Cymuned Caerdydd. Yn ogystal, mae perfformwyr NFS wedi darparu adloniant ar gyfer llawer o seremonïau Gwobrau C&B yn y gorffennol. Fe enillon ni yng Ngwobrau C&B Cymru 2023 am ein partneriaeth â CCHA.

Os hoffech wybod rhagor am ein partneriaethau, ein prosiectau a'n rhaglenni amrywiol, ewch i'n tudalen prosiectau.

 

Os hoffech gychwyn sgwrs am ffyrdd y gallem gydweithio, cysylltwch ag:

Elena Schmitz, Pennaeth Datblygu

029 20 221 330