Neidio i'r prif gynnwys
children_in_need_header.jpeg

gweithdai plant mewn angen

Mae gweithdai syrcas di-dâl Plant mewn Angen yn rhan o brosiect dwy flynedd i gyflwyno syrcas i blant a phobl ifanc rhai o wardiau mwyaf difreintiedig Caerdydd.

Yn y prosiect hwn, mae NoFit State yn mynd â syrcas i’r gymunedgan gynnig gweithdai syrcas am ddim yng nghymunedau Butetown, Grangetown, Adamsdown a Sblot, Caerdydd am ddwy flynedd.

Dyma gyfle gwych i blant a  phobl ifanc yr ardal i gael ymarfer corff a mwynhau gweithgareddau syrcas hwyliog a chreadigol er na allant ddod i’n dosbarthiadau arferol. Gall fod cyfle i brofi eu sgiliau cydbwyso ar wifren dynn, dysgu gwneud pyramidau dynol gyda ffrindiau newydd neu roi cynnig ar sgiliau diablo neu hŵla hŵp. Efallai y cân nhw hyd yn oed brofi sgiliau awyrgampau fel sidanau, y ddolen awyr a’r trapîs yn ein sesiynau yn Four Elms.

Dyma brosiect dwy flynedd a gychwynnwyd yn y gwanwyn 2018 ac sy’n cael ei ariannu gan Plant mewn Angen. 

“The first session held by No Fit State circus in the Hub was an incredible success. It was amazing to see the children trying so hard to learn the skills being demonstrated. They showed great initiative and team working skills during the session, they also put their own talents to good use helping their classmates to achieve their goals. The children were truly inspired by Katie and the other tutors.” 

Naima Abdi (Hub Manager Cynorthwyol yr Hyb, Cardiff Council)  

Cyfrannwch £

Supported by

bbc_children_in_need.jpeg
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×