Neidio i'r prif gynnwys
square mile project page 2 - compressed.png

Square Mile / Milltir Sgwâr

Partneriaeth o artistiaid a mudiadau cymunedol sy’n gweithio yn Adamsdown, Sblot a Thremorfa.

Mae Square Mile / Milltir Sgwâr yn bartneriaeth o artistiaid a mudiadau cymunedol sy’n gweithio yn Adamsdown, Sblot a Thremorfa. Gyda’n gilydd, rydym yn cyd-greu rhaglen ddiwylliannol 14 mis sy'n cynnwys gweithdai, perfformiadau, arddangosfeydd a gwaith digidol i ddathlu ein hamrywiaeth a'n cymuned leol, ac i fod yn llwyfan i leisiau creadigol pobl sy’n byw yn ein Milltir Sgwâr. Dyma gymuned sy'n gyfoethog yn ddiwylliannol, yn ieithyddol ac o ran ethnigrwydd.

Dyma rai o weithgareddau presennol Milltir Sgwâr:

summer programme banner temp.png

Rhaglen o hwyl haf am ddim 2023

23 Gorffennaf – 2 Medi

Buom yn gweithio mewn partneriaeth â rhagor o fudiadau ac artistiaid llawrydd lleol i gyflwyno rhaglen o hwyl haf ar gyfer ein cymuned. Cafwyd amrywiaeth o weithgareddau gwyliau di-dâl yn cynnwys syrcas, dawns, parkour, a chelf a chrefft i gadw pobl yr ardal a’u teuluoedd yn brysur dros wyliau haf yr ysgolion. 

Y mudiadau lleol, NoFit State Circus, Green Squirrel, Rubicon Dance, Fluidity Freerun Academy, Oasis a Chymdeithas Tai Cymuned Caerdydd (CCHA); a'r artistiaid Flow Maugran and Rachel Helena Walsh gyflwynodd y rhaglen gyffrous hon o weithgareddau yma a thraw yn yr ardal.

Gweld Rhaglen yr Haf
Gwledd Parc Feast  - banner.png

Gwledd Parc Feast 2023

Dydd Sadwrn 2 Medi, Caeau Anderson

Ym mis Medi, cynhaliodd partneriaid Milltir Sgwâr ddiwrnod o ddathlu di-dâl i'r teulu cyfan yng Nghaeau Anderson. Roedd cerddoriaeth fyw, perfformiadau a gweithgareddau i bawb gymryd rhan ynddynt. Yn ogystal, roedd gorymdaith fechan o Stryd Clifton i Gaeau Anderson i gychwyn y gweithgareddau. 

Rhagor o Wybodaeth
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×