Neidio i'r prif gynnwys
2026_04_MJR_carnation-fri_3781-web.jpg

Carnation

Mae’r chwyldro'n nesáu a does gen i ddim byd i’w wisgo

CARNATION 2027 Tour

  1. Norfolk a Norwich Festival, Lleogr

    14 Mai - 30 Mai 2027

Past shows

2026

carnation

Mae’r chwyldro'n nesáu a does gen i ddim byd i’w wisgo

Croeso i’r Big Top! 

Mae NoFit State yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 gyda sioe newydd syfrdanol.

Mae CARNATION yn eich hyrddio i ganol hwrlibwrli sioe syrcas fawreddog, ryfeddol am obaith mewn gwrthryfel.

Yma mae syrcas gyda'r gorau yn y byd, cerddoriaeth fyw a darluniau sinematig trawiadol yn dod benben mewn profiad hollgynhwysol yn y Big Top dan law’r cyfarwyddwr arobryn Firenza Guidi. 

Afieithus, carlamus ac emosiynol – mae CARNATION yn byrlymu o sgiliau syfrdanol ac eiliadau arswydus wrth i bobl gyffredin wneud pethau anghyffredin. 

Mae NoFit State yn creu gwaith mentrus, herfeiddiol sy’n berthnasol i bobl o bob oed. 


Canllaw oed: Does dim byd yn CARNATION i’w wneud yn anaddas i blant ond nid yw wedi’i wneud yn benodol i blant. 


"Once inside the big top, you are enveloped in a world of magic"  The Guardian

 

ARTISTIC TEAM
Artistic Director                   Tom Rack
Auteaur/Director                 Firenza Guidi
Composer/MD                     David Murray
Costume Design                  Rhi Matthews
Rigging Design                     Lyndall Merry, Lee Tinnion, Tom Rack
Lighting Design                   Sam Eccles, Firenza Guidi
Set Design                            Tom Rack, Iolo Lavender

PRODUCTION & CREW
Tour Manager                      Rebecca Davies
Production Manager           Matt Davies
Technical Manager              Sam Eccles
Creative Producer               Dann Carroll
Assistant Producer              Evie Davies
Costume Manager              Rhi Matthews
Crew/Handyman                 Aidan Whittington
Crew/2nd Rigger                 Jake Perry

ON-STAGE TEAM
1st Rigger/Performer       Tom Green
Musician/Performer         Lisa Savini
Musician/Performer         Trystan Chambers
Musician                             Matt Collins       
Performer                           Alex Garcia Bustos
Performer                           Besmir Sula
Performer                           Clara Laurent
Performer                           Clementine Tonkin Wells
Performer                           Gon Fernández
Performer                           Grace Tonkin Wells
Performer                           Jules Young
Performer                           Lauren Jamieson
Performer                           Manu Melani
Performer                           Raffaele Riggio
Performer                           Raphaëlle Bettinger

FAQs

Mae CARNATION yn para tuag 2awr (yn cynnwys egwyl o 20 munud). Gall redeg ychydig yn hwyrach weithiau, felly dylech ystyried hynny wrth wneud trefniadau teithio.

Via the festival/venue website and box office, follow the link provided.

Rydym yn gweithio i wneud ein perfformiadau mor hygyrch ag y bo modd. Os oes gennych chi neu un o’ch gr?p anghenion hygyrchedd ychwanegol, cysylltwch i holi am fanylion ac i weld sut y gallwn wneud eich ymweliad mor braf ag y bo modd.

Dylai pobl sydd â phroblemau symud roi gwybod i’r swyddfa docynnau fel y gallwn gadw seddau hwylus i chi. Mae’r babell fawr yn hollol hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn ac mae toiled hygyrch ar y safle.

Dylai pobl sydd â nam ar eu golwg roi gwybod i’r swyddfa docynnau fel y gallwn gadw seddau ger y tu blaen iddynt. Dylent roi gwybod i ni hefyd os ydynt yn dod â chi tywys gyda nhw.

Mae gennym ychydig o lefydd i bobl anabl barcio ger y safle. Cysylltwch â ni ymlaen llaw os bydd arnoch angen un o’r rhain fel y gwyddom i’ch disgwyl.

Byddwch yn un o’n cefnogwyr

Dyma'ch cyfle i redeg i ffwrdd gyda'r syrcas! Trwy fod yn gefnogwr rheolaidd, gallwch newid bywydau trwy ein prosiectau ymgysylltu effeithiol a'n cynyrchiadau syrcas gyfoes syfrdanol

Rhagor o wybodaeth
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×