Neidio i'r prif gynnwys
2017_12_MJR_nfs-youthcircus_0130-web.jpeg

syrcas: 250 oed a’n dal yn ifanc

Prosiect treftadaeth creadigol, 9 mis o hyd, a arianwyd gan raglen grantiau Gwreiddiau Ifanc Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer Syrcas Ieuenctid NoFit State, oedd Syrcas: 250 Oed a’n Dal yn Ifanc.

Rhoddodd Syrcas: 250 Oed A'n Dal Yn Ifanc gyfle i'n syrcas Ieuenctid talentog gysylltu â chyfraniad unigryw Cymru at ddatblygiad syrcas dros y 250 mlynedd diwethaf, gan arwain at berfformiad terfynol fel rhan o ddathliadau y DU gyfan sy'n marcio 250 mlynedd ers syrcas yn 2018.

Yn 2017, cafodd NoFit State Circus arian trwy raglen Gwreiddiau Ifanc Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) i arwain aelodau o’i Syrcas Ieuenctid ar daith greadigol trwy hanes byd y syrcas, fel rhan o ddathliadau 250 mlwyddiant y syrcas fodern yn 2018.

Roedd Circus: 250 Oed a’n Dal yn Ifanc yn brosiect treftadaeth creadigol, 9 mis o hyd, dan arweiniad NoFit State Circus ac aelodau dawnus ei Syrcas Ieuenctid oedd i gyd rhwng 5 a 18 oed.

Bu’r prosiect yn edrych ar gyfraniad unigryw Cymru at ddatblygiad byd y syrcas dros y ddwy ganrif a hanner ddiwethaf gan gyrraedd penllanw gyda pherfformiad a oedd yn rhan o ddathliadau dau can mlwyddiant a hanner y syrcas.

Bu Syrcas Ieuenctid NoFit State yn cydweithio â’u partneriaid treftadaeth, Archifau Morgannwg, i chwilota a darganfod hanes coll byd y syrcas yng Nghymru; gan gribinio’r archifau, sgwrsio gydag arbenigwyr syrcas, a hyd yn oed gael profiad o weithdai ymarferol yn sgiliau anghofiedig y syrcas. Cawsant weithdai creadigol a sgyrsiau gydag aelodau proffesiynol NoFit State wrth greu LEXiCON.

Trwy gydweithio â’r corff creadigol ProMo-Cymru, cafodd perfformwyr ifanc addawol NoFit State gyfle i ddysgu sut i ddogfennu’r prosiect a chreu blogiau fideo difyr am eu profiad.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×