Neidio i'r prif gynnwys
into_the_light_collection_22.jpeg

syrcas yn yr ysgol - into the light

Aeth y prosiect hwn â’r syrcas i’r ysgol fel rhan o bartneriaeth gydag Ysgol Gynradd Adamsdown.

syrcas yn yr ysgol: cyfle i ddathlu cymuned ffoaduriaid caerdydd

Diolch i raglen Cydweithio Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru, ym mis Chwefror 2020 cychwynnwyd ar bartneriaeth gydag ysgol leol, Ysgol Gynradd Adamsdown, i ddathlu cymuned ffoaduriaid Caerdydd.

Y prosiect hwn oedd y tro cyntaf i NoFit State gydweithio ag ysgol leol ar brosiect tymor hir. Bwriad y preswyliad oedd cynnal cyfres o weithdai creadigol gyda disgyblion yr ysgol, yn cynnwys pob math o weithgareddau syrcas, adrodd straeon a pherfformiadau artistig. Yn benllanw i’r preswyliad, roedd cynlluniau i gynnal gŵyl gymunedol undydd gyda pherfformiadau creadigol, arddangosfeydd gweledol a bwyd, ar dir yr ysgol i ddathlu poblogaeth Caerdydd o ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Cafodd y prosiect ei greu fel ffordd o ddathlu natur amrywiol yr ysgol sydd â disgyblion o dros 50 o wahanol wledydd. Mae 84% ohonynt yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol ac mae teuluoedd llawer ohonynt wedi ffoi o’u gwlad i geisio lloches yma.

Y bwriad oedd cynnal yr ŵyl yn ystod Wythnos Ffoaduriaid (17–23 Mehefin 2020). Roeddem yn awyddus i ddathlu’r gymuned gynyddol o ffoaduriaid a’u cyfraniad at fywyd Prydain gan ddefnyddio mynegiant creadigol a pherfformiadau i gyfleu gwerthoedd ac i helpu pobl i ddeall pam y mae pobl yn ceisio lloches.

newyddion am y prosiect 

Oherwydd pandemig y coronafeirws, cafodd y prosiect hwn ei ohirio am rai misoedd dros yr haf. Er bod hyn yn siom, llwyddodd NoFit State ac Ysgol Gynradd Adamsdown, trwy gydweithio, i ailafael yn y gwaith yn nhymor yr hydref o dan yr enw newydd ‘Into the Light’.

Gwnaed ychydig o newidiadau i’r prosiect, er mwyn ymateb i’r rheolau am gadw pellter cymdeithasol a mynd i’r afael â rhai o effeithiau’r pandemig. Roedd hyn yn golygu bod ail ran y prosiect yn rhoi mwy o sylw i iechyd a lles, gan ddefnyddio gweithgareddau syrcas i roi profiadau da i bobl ifanc na chafodd lawer o gyfle i ymarfer eu corff na’u meddwl dros y cyfnod clo.


Trwy annog y plant i chwarae a mynegi eu hunain trwy weithgareddau syrcas, gwelsom y criw gwych hwn o ddisgyblion yn mynd o nerth i nerth. Cyn gynted ag yr oedd modd i ni fynd yn ôl i’r ysgol i arwain gweithdai, dechreusom weld newid pendant yn y plant. Roedden nhw’n gwenu mwy a gwelsom eu hyder yn datblygu wrth iddyn nhw ddechrau dysgu llu o sgiliau newydd.


Gan nad oedd modd i ni gynnal yr ŵyl gymunedol oedd i fod yn benllanw i’r prosiect, manteisiwyd ar y cyfle i ad-drefnu a chreu gwaddol digidol. Aethom ati i greu ffilm o’n cyfnod yn yr ysgol a chyfres o fideos addysgu hawdd eu dilyn fel y gall y bobl ifanc eu mwynhau ymhell ar ôl i’r prif brosiect ddod i ben.
Hoffem ddiolch i’r tîm rhyfeddol o athrawon a chynorthwywyr yn Ysgol Gynradd Adamsdown. Maen nhw’n ddewr, yn ymroddedig ac yn angerddol am les y plant.

Support local pupils welfare at one of the most diverse schools by donating today:

Cyfrannwch £
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×