support_web_header_10.jpg

partneriaethau corfforaethol

Mae NoFit State wedi llwyddo'n dda i gael nawdd gan fusnesau a datblygu gwasanaethau pwrpasol sy'n dod â'r goreuon ym maes syrcas gyfoes wyneb yn wyneb â byd busnes.
Final (CY) Image with sponsor logos & Sabotage lead image 2023 July 2MB.jpg

cyfle i wneud eich marc

Mae brand bywiog ac unigryw NoFit State yn denu cynulleidfaoedd mawr, nid yn unig ledled Cymru a Phrydain, ond yn rhyngwladol. Mae ein cynyrchiadau teithiol yn cyrraedd degau o filoedd o bobl bob blwyddyn ac mae ein prosiectau cymunedol ac ieuenctid yn berthnasol i bobl o bob oedran.

Byddwn yn cydweithio â chi i ddatblygu pecyn partneriaeth pwrpasol sy'n ateb gofynion eich cwmni o ran budd hirdymor am bris sy'n addas i chi. Yn gyfnewid am hynny, bydd eich cefnogaeth chi yn ein helpu ni i barhau i greu cynyrchiadau syrcas gyfoes o'r radd flaenaf, ac i ysbrydoli a chefnogi'r genhedlaeth nesaf o artistiaid ac ymgysylltu â rhai o'r cymunedau mwyad amddifadus a mwyaf amrywiol ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig.

Gallwn Gunnig:

  • Hyfforddiant a gweithgareddau meithrin tîm unigryw i'r staff
  • Digwyddiadau ag adloniant i chi yn unig
  • Gweithgareddau i leoli'r brand yn rhyngwladol a chysylltiadau cyhoeddus byd-eang
  • Cyfle dibynadwy i gysylltu â chynulleidfaoedd newydd
  • Cynlluniau ymgysylltu â'r gymuned
  • Prosiectau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol bach a mawr

    I gychwyn y sgwrs, cysylltwch ag:
   Elena Schmitz, Pennaeth Datblygu
   029 2132 1004

​​​

Roedd Tiny Rebel yn falch o gael partneru â NoFit State wrth fynd â SABOTAGE ar daith yn 2022. Cyflwynodd y bartneriaeth hon ein cwrw awescraft i gwsmeriaid, cynulleidfaoedd a lleoliadau newydd, gan alluogi NoFit State i gynhyrchu adnoddau ychwanegol. Roedd hynny, yn ei dro, yn golygu bod rhagor o bobl o gefndiroedd difreintiedig wedi cael tocynnau am ddim a thocynnau rhatach i weld eu sioeau.

Rydyn ni wrth ein bodd â'u hagwedd nhw at gynhwysiant, amrywiaeth a dathlu gwahaniaethau – agwedd sy'n cyfateb i'n gwerthoedd ni'n hunain. Cafodd ein staff ninnau ostyngiadau hael ar docynnau, gyda llawer ohonynt yn profi sioeau syrcas gyfoes unigryw NoFit State am y tro cyntaf. Profiad bythgofiadwy.
Bradley Cummings, Prif Weithredwr Tiny Rebel
Mae CELSA yn falch o fod wrth galon Caerdydd ac i fod yn gysylltiedig â phawb yn ein hardal leol sy’n ychwanegu at ein cymuned fywiog.
Chris Hagg, Pennaeth Cynaliadwyedd a Strategaeth, Celsa Steel UK