Eric_vlcsnap-2021-05-08-14h25m30s629-min.png

The Denial This is Forever

Gwaith Newydd gan Eric McGill, gyda chefnogaeth NoFit State

Cyfuniad o amgueddfa, gêm fideo realistig a pherfformiad byw yw The Denial This is Forever ac mae’n mynd i’r afael â chyfyngiadau a gwendidau ymwneud â phobl trwy’r cyfryngau digidol.

Ar ôl cael eich arwain trwy gyfres o ddarnau syrcas digidol gan fframiau lluniau digidol, gwaith taflunio a llwybr o ganhwyllau bach byddwch wedi cael llond bol ar sgriniau ac yn dyheu am weld person go iawn o gig a gwaed yn symud trwy’r awyr ar y trapîs.

Perfformiad hybrid undyn ar y trapîs yw The Denial This is Forever. Gwahoddir criw bach o’r gynulleidfa i ystyried sut mae’r duedd newydd i ddibynnu’n drwm ar dechnoleg ddigidol ar gyfer gwaith, hamdden a chymdeithasu wedi newid eu bywydau. Mae sgriniau a thechnoleg wedi cymryd lle llawer o gysylltiadau wyneb-yn-wyneb. Rydym wedi bod o dan yr argraff mai dros dro mae hyn ond beth pe bai’n para am byth?

dyddiadau

20 Gorffennaf -1 Awst, nos Iau tan nos Sul,

Dydd Iau a dydd Gwener, 9pm | dydd Sadwrn a dydd Sul, 7pm a 9pm

Book

rhagor o wybodaeth

Ewch i ericmcgill.net

ar gael i fynd ar daith

Cysylltwch yn uniongyrchol trwy ericmcgill.net

    Eric_vlcsnap-2021-05-01-15h48m54s814-min.png Eric_vlcsnap-2021-05-03-20h28m59s767.png Eric_vlcsnap-2021-05-08-14h25m30s629-min (1).png