Bamboo -2226 c Jon Street.jpg

BAMBOO

Cynhyrchiad syrcas awyr-agored newydd trawiadol, sgilgar, ysblennydd sy’n defnyddio dim ond bambŵ a chyrff pobl

BAMBOO

Cynhyrchiad syrcas awyr-agored newydd trawiadol, sgilgar, ysblennydd sy’n defnyddio dim ond bambŵ a chyrff pobl - gan ddangos breuder a harddwch ein bywydau rhyng-gysylltiedig a rhyngddibynnol ar y blaned hon. 

Mae'r artistiaid yn cyrraedd llwyfan gwag, gan ddod â bwndeli o fambŵ gyda nhw.  Maen nhw'n adeiladu cerfluniau mawr sy'n newid, yn addasu ac yn troi'n faes chwarae syrcas cywrain, annisgwyl sydd fel pe bai'n herio deddfau ffiseg.  

Mae artistiaid syrcas ac acrobatiaid gyda'r gorau yn y byd y tu mewn i’r strwythurau sy’n plygu ac yn gwyro, gan ychwanegu at y tensiwn, y ddrama, a’r ymdeimlad o berygl sydd wrth galon y sioeau syrcas gorau. 

Dyma berfformiad ystyrlon, afieithus, gyda cherddoriaeth fyw, comedi a champau sy'n dangos nerth ac ystwythder rhyfeddol.  Rydym yn dathlu’r hyn sy’n bosibl pan fydd bodau dynol a byd natur yn ymddiried yn ei gilydd ac yn gweithio mewn cytgord.

Mae BAMBOO yn bartneriaeth rhwng NoFit State, Imagineer ac Orit Azaz. Mish Weaver sy'n cyfarwyddo. Fe'i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, The Foyle Foundation, a Without Walls, ac fe'i comisiynwyd gan Stockton International Riverside Festival, Norfolk & Norwich Festival, Hat Fair a Timber Festival.

Tyfodd BAMBOO allan o brosiect ar y cyd rhwng Imagineer, Orit Azaz a NoFit State er mwyn archwilio pa strwythurau, straeon a pherfformiadau syrcas y gellir eu creu â bambŵ wedi’i dyfu yn y DU. Os hoffech wybod mwy, ewch i dudalen Ymchwil a Datblygu Bamboo Circus ar ein gwefan. 

Sioeau ar y Ffordd

  1. Gŵyl Afon Dyffryn Gwy, Monmouth

    4 Mai 2024

  2. Gŵyl Afon Dyffryn Gwy, Redbrook

    5 Mai 2024

  3. Norfolk & Norwich Festival, Norwich

    11 Mai 2024

  4. Viva Cité, Sotteville-lès-Rouen, France

    18 Mai - 19 Mai 2024

  5. Yr Ardd Furiog, Tywyn

    29 Mai 2024

  6. Y Lawnt, Y Plas, Machynlleth

    29 Mai 2024

  7. Y Parc, Oriel Davies Gallery, Y Drenewydd

    30 Mai 2024

  8. Timber Festival, Leicestershire

    6 Gorffennaf 2024

  9. Manchester Day, Manchester

    27 Gorffennaf 2024

  10. Stockton Riverside, Stockton

    2 Awst - 3 Awst 2024

  11. Colby Woodland Garden, Amroth

    10 Awst 2024

  12. Castell Aberteifi, Aberteifi

    14 Awst - 15 Awst 2024

  13. Birmingham Weekender, Birmingham

    25 Awst 2024

  14. Parc Sblot (ger Hyb STAR), Caerdydd

    1 Medi 2024

  15. Imagine Bamboo, Nuneaton a Bedworth

    14 Medi 2024

  16. I'r Môr, Llynnoedd Cosmeston, Penarth

    15 Medi 2024

  17. Streets of Cov, Coventry

    20 Medi - 21 Medi 2024

  18. Harbour Festival, Hall for Cornwall, Redruth

    28 Medi - 29 Medi 2024

BAMBOO Trailer

CREDITS

Tom Rack ac Orit Azaz - Cyd-Gyfarwyddwyr Artistig
Michele Weaver - Cyfarwyddwr
Tarn Aitken - Perfformiwr, Rigiwr a Pheiriannydd Syrcas
Dann Carroll – Cynhyrchydd
Rhi Matthews –Dylunydd Gwisgoedd

David Insua-Cao  – Music & Composition

 

Perfformwyr
Felix Fogg
Guillem Fluixa Martí
Laura Moy
Lily Riseley-Prichard
Nicoló Marzoli
Rosa-Marie Schmid

ffotograffau bamboo circus gan andrew moore a jon street

    Imagineer_Imagine_Bamboo_290723_736_Credit_Andrew_Moore.jpg Screenshot 2024-01-04 at 12.06.06.png Imagineer_Imagine_Bamboo_290723_165_Credit_Andrew_Moore.jpg Bamboo -2226 c Jon Street.jpg Imagineer_Imagine_Bamboo_290723_2073_Credit_Andrew_Moore.jpg Imagineer_Imagine_Bamboo_290723_748_Credit_Andrew_Moore.jpg Bamboo -1519 c Jon Street.jpg