careers.jpg

Gyrfaoedd a chastio

Mae NoFit State o'r farn bod y cyfunol yn gorbwyso swm ei rannau. Cwrdd â'r teulu o bobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin.

cyfle am swydd: cynorthwyydd marchnata a chyfathrebu

Rydym yn chwilio am rywun sydd newydd raddio neu wedi cael profiad perthnasol yn ddiweddar ac sy'n uchelgeisiol ac yn gweld y celfyddydau fel rhan bwysig o'u bywyd i fod yn Gynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu gyda ni. 

Byddwn ni'n annog ac yn cefnogi'ch datblygiad, gan ddefnyddio'ch sgiliau a'ch cryfderau. Byddwch yn rhan annatod o’n tîm ac yn gweithio ar ymgyrchoedd deinamig ar y cyfryngau gan ennyn diddordeb yn ein sioeau Big Top, ein rhaglen gymunedol, ein gwyliau a'n prosiectau, er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael y cyfle i brofi gwaith NoFit State a chael eu hysbrydoli a'u herio ganddo.

Mae Nofit State yn sefydliad creadigol, deinamig sy’n ffynnu wrth wynebu her ac sydd bob amser yn ceisio dysgu a gwella ym mhopeth a wna. Wawn ein hysbrydoli gan y pethau rhyfeddol y gall pobl gyffredin eu cyflawni ac rydym yn dathlu’r nerth cymunedol a ddaw o fywyd teithiol traddodiadol y syrcas.

Ymunwch â ni!