Neidio i'r prif gynnwys
clifton_street_photo_trail.png

llwybr lluniau stryd clifton

Roedd ffotograffau o Ŵyl Stryd Clifton i'w gweld yma a thraw yn Stryd Clifton ac yn Hyb STAR ym mis Chwefror

gair am y llwybr lluniau

Am gyfnod ym mis Chwefror 2023, arddangoswyd rhai o ffotograffau hardd Gŵyl Stryd Clifton a gynhaliwyd yr haf cynt. Roeddent yn rhan o lwybr lluniau o gwmpas yr ardal, yn cynnwys 26 o ffotograffau ar gyffordd Stryd Clifton a Tin Street, ffotograffau yn ffenestri busnesau lleol, ac arddangosfa dan do â 70 o luniau yn Hyb STAR, Tremorfa.

Cafodd Gŵyl Stryd Clifton ei chyd-greu gan y gymuned leol, artistiaid, cerddorion a NoFit State. Roedd y llwybr lluniau'n gyfle i hel atgofion, i ystyried potensial yr ardal i ffynnu ac i ddathlu'r gymuned amrywiol sy'n byw ac yn gweithio ar y stryd. Dyma daith i ddod i nabod Stryd Clifton a'i chymuned ryfeddol a chreadigol.

Diolch o waelod calon i'n ffotograffwyr, Mark J Robson a Mary Wycherley, a lwyddodd i ddal ysbryd Gŵyl Stryd Clifton a'n helpu ni i ail-greu'r atgofion hyn.

#CliftonStreetFestival #GŵylStrydClifton

Roedd Gŵyl Stryd Clifton yn ddiwrnod o ddathlu cartref a chymuned a gynhaliwyd ddydd Sul Gŵyl Banc Awst 2022. Cafodd ei chyd-greu gan y gymuned leol, artistiaid, a Syrcas Gymunedol NoFit State a'i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chymdeithas Tai Cymuned Caerdydd.


 

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×