Neidio i'r prif gynnwys
Circus_to_the_Streets_Hero.png

circus to the streets

Beth sy'n digwydd pan fydd grŵp o berfformwyr syrcas ifanc yn mynd â'u sgiliau i'r strydoedd… 

Ar ôl llwyddiant eu sioe dan do Circus Mundi, mae Syrcas Ieuenctid NoFit State yn edrych mlaen at fynd â'u sgiliau allan i'r strydoedd. 

O dan arweiniad John Beedell (Desperate Men), mae Syrcas Ieuenctid NoFit State wedi bod yn ystyried eu pryderon a’u dyheadau, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu ymwybyddiaeth o’r gynulleidfa a’r hyn sydd o’u cwmpas. Mae hon yn sioe hollol wahanol. Byddwch yn barod i gael eich taflu yma a thraw! 

Eisoes cafodd y sioe ei pherfformio mewn lleoliadau amrywiol ledled canol Caerdydd, gyda pherfformiad arbennig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o RawFfest, a llwyddodd i ddal dychymyg trigolion y brifddinas – pwy a ŵyr, efallai mai'ch tro chi yw hi nesaf! 

 

 

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×