Neidio i'r prif gynnwys
angelique_fred_4_copy.jpeg

mae yna le

2016 | digwyddiad theatrig cymunedol, cyffrous i ddathlu agor Pontio, Bangor

Bydd y perfformiad yn consurio lle, gorffennol, sain, pleser, delwedd:hanesion anghyfarwydd, atgofion a breuddwydion dileferydd.Caleidesgôp o liwiau a symudiadau, pair o theatr, ffilm, syrcas a cherddoriaeth fyw i godi’ch calon i’r entrychion.

Wedi’i lunio a’i greu gan Firenza Guidi (Cyfarwyddwr Artistig, BIANCO), dyma ddigwyddiad cymunedol theatrig i ddathlu agor Pontio mewn partneriaeth â phrosiect BLAS Pontio, Canolfan Addysg y Bont, Ysgol Friars, Ysgol Bro Ddewi, Ysgol Hirael ac Ysgol Glancegin ynghyd ag Ed Wright o Electroacwsteg Cymru. Diolch i’r holl feirdd a fu’n cydweithio’n agos â Pontio i wireddu cynllun HaDAsyniaDA a chynnig yr ysbrydoliaeth ar gyfer ‘Mae yna Le’: Tudur Dylan, Karen Owen, Gerwyn Wiliams, Ed Holden, Sian Northey, Eurig Salisbury, Llion Jones a Dewi Pws.

Gyda chefnogaeth Grŵp Watkin Jones

 
 
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×