splits.jpg

Amdanom

Sefydlwyd NoFit State ym 1986 gan bump o ffrindiau. Yn ystod cyfnod gwleidyddol cythryblus o ddirwasgiad, ac fel ymateb creadigol i’r byd o’u cwmpas, ganwyd y syrcas.

pobl gyffredin yn gwneud pethau rhyfeddol...

Sefydlwyd NoFit State ym 1986 gan bump o ffrindiau. Yn ystod cyfnod gwleidyddol cythryblus o ddirwasgiad, ac fel ymateb creadigol i’r byd o’u cwmpas, ganwyd y syrcas.

Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae NoFit State yn dal i gredu bod y cyfanwaith yn cyfrif mwy na’r rhannau unigol. Mae’r cwmni’n byw gyda’i gilydd, yn gweithio gyda’i gilydd, yn bwyta gyda’i gilydd, yn chwerthin ac yn crio gyda’i gilydd – gan deithio mewn tryciau, trelars a charafanau ac yn caru ac anadlu fel un gymuned. Dyma beth sy’n creu ysbryd NoFit State ac yn rhoi’r galon a’r enaid yn y gwaith.

Mae syrcas gyfoes yn cyfuno cerddoriaeth fyw, dawns, dylunio llwyfan, testun a ffilm gyda sgiliau syrcas traddodiadol. Mae ei gwreiddiau yn y gymuned deithiol sy’n cyrraedd, yn codi pabell, yn denu cynulleidfa, ac wedyn yn gadael gyda dim ond glaswellt gwastad ac atgof i ddangos iddynt fod yno. Y syrcas yw’r dieithriaid sy’n byw yn ein plith – ac os byddwn yn rhedeg i ffwrdd i ymuno â nhw, rydym yn cefnu ar ein hataliadau, ein confensiynau, rheolau cymdeithas sefydlog. Rydym yn mynd ar y ffordd gan wybod nad oes cyrchfan – dim ond taith.

Heddiw, NoFit State yw’r cwmni syrcas gyfoes mwyaf blaengar yn y DU ar raddfa fawr, sy’n creu cynyrchiadau teithiol proffesiynol ac amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol, hyfforddiant ac addysg i bobl o bob oed.

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae cynyrchiadau teithiol NoFit State wedi ymweld â 19 o wledydd gwahanol, wedi perfformio i gynulleidfaoedd o fwy na 460,000 o bobl, wedi cael eu canmol gan feirniaid ac wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol mawreddog ym myd y celfyddydau.

Prosiectau

From festivals and community projects to corporate partnerships and sector support initiatives, NoFit State engages in a range of projects to benefit a wide variety of people.

Mwy o wybodaeth

Cwrdd â'r tîm

Mwy o wybodaeth

Gyrfaoedd a chastio

Mae NoFit State o'r farn bod y cyfunol yn gorbwyso swm ei rannau. Cwrdd â'r teulu o bobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin.

Mwy o wybodaeth

polisi artistig

Rydyn ni’n dathlu’r gwrthdynnu sydd ynon ni’n hunain ac yn ein gwaith. Awn ati i greu llanast hardd ac anhrefn trefnus. Ymdrechwn i fod yn ddifrifol o gyffrous ac yn draddodiadol greadigol.


Rydyn ni’n cydweithio â nifer o unigolion a chyrff creadigol i roi ysgogiad newydd a chyfeiriad ffresh i’n gwaith.
Mae ein gwaith yn mynd y tu hwnt i waith syrcas traddodiadol gan gynnwys pob math o ddisgyblaethau corfforol a chelfyddydau perfformio. Yn ein barn ni, does dim angen cyfiawnhau, esbonio nac esgusodi syrcas gan ddefnyddio naratif neu drosiadau yn y perfformiad.


Ymdrechwn i fod yn arloeswyr artistig ac i ddatblygu gwaith radical a hygyrch sy’n soffistigedig yn ei symlrwydd. Croesawn y rheidrwydd ariannol i ddenu cynulleidfaoedd mawr gan ei fod yn ein hysbrydoli i greu gwaith bach a mawr, yn yr awyr agored a dan do. Mae i’n gwaith gyd-destun, neges ac ystyr cymdeithasol-wleidyddol; mae’n flaengar ac yn wahanol, ac eto mae’n agored i’r farchnad brif-ffrwd.


Heriwn syniadau’r cyhoedd am beth yw syrcas, ar gyfer pwy y mae a beth y gall fod. Chwiliwn am gynulleidfaoedd newydd, amrywiol, ac awn â’n gwaith i galon y gymuned.

Y cyfuniad o gerddoriaeth wreiddiol a geirfa symudiadau yw ffurf y mynegiant sydd wrth graidd ein gwaith, a defnyddiwn y ffurf hon i gludo cynnwys emosiynol neu neges ddramatig y darn. Canolbwyntiwn ar ddynoliaeth artistiaid y syrcas a thrwy broses o ddyfeisio, trwy eu trin mewn ffordd holistig, gallwn ddatblygu ensemble o berfformwyr unigol.
Wrth ddylunio’r set, rydyn ni’n trin y gwaith rigio, yr agweddau technegol, y strwythur a’r golygfeydd fel un cyfanwaith gan greu amgylchedd cynhwysfawr i’r perfformwyr drigo ynddo ac i’r gynulleidfa ddod i’w nabod.


Mae syrcas yn fwy na chelfyddyd, mae’n ffordd o fyw. Felly, mae ein polisi diwylliannol a’n gweledigaeth artistig yn gydgysylltiedig. Credwn fod ysbryd cwmni sy’n cydweithio, yn cyd-fyw, yn cyd-deithio, yn cyd-fwyta ac yn cyd-anadlu yn rhoi calon ac enaid i’r gwaith.

Cawn bleser o ymwneud â chymunedau gan gynnig cyfleoedd i bobl gymryd rhan a chael hyfforddiant ar bob lefel.