zambia-ingoma-nofit_3.jpg

Partneriaeth â circus zambia ac ingoma nshya

Rydym wedi cael y pleser o ddatblygu perthynas newydd â dau gwmni anhygoel o wahanol rannau o Affrica.

partneriaeth â circus zambia ac ingoma nshya

Rydym wedi cael y pleser o ddatblygu perthynas newydd â dau gwmni anhygoel o wahanol rannau o Affrica.

Rydym wedi cael y pleser o ddatblygu perthynas newydd â dau gwmni anhygoel o wahanol rannau o Affrica. Circus Zambia, a'u Cyfarwyddwr Artistig, Gift Chansa, ac Ingoma Nshya, grŵp drymio o Rwanda o dan arweiniad Odile Gakire Katese. 

Mae Circus Zambia yn gwmni syrcas cymdeithasol, bywiog ac ifanc ei ysbryd sy’n dysgu sgiliau syrcas a sgiliau bywyd i bobl ifanc o gefndiroedd bregus yn nhreflan Lusaka a’r cylch ac yn cynnig cyfleoedd iddynt gael addysg a gwaith. 

Ingoma Nshya yw’r grŵp drymio cyntaf erioed i ferched yn Rwanda. Mae eu gwaith yn cyplysu datblygiad y merched y maen nhw’n cydweithio â nhw yn Rwanda â datblygiad y diwylliant drymio traddodiadol, gan ymdrechu i gywiro’r anghydbwysedd sy’n parhau rhwng dynion a menywod.

Fe wnaethon ni gyfarfod gyntaf yng nghynhadledd ISPA yn Efrog Newydd gyda’r Cyngor Prydeinig.  Er bod y tri chwmni’n gweithio mewn ffyrdd gwahanol, rydym wrth ein bodd ag angerdd, dyfeisgarwch a doniau Circus Zambia ac Ingoma Nshya. 

Ar ôl hynny, gyda chymorth y Moondance Foundation, aethom ati i drefnu preswyliad i ddod â chwmni teithio Circus Zambia ac Odile Gakire Katese o Ingoma Nshya i’n canolfan hyfforddi yng Nghaerdydd i gyfnewid sgiliau. Roedd hyn yn gyfle i rannu gwybodaeth am ddatblygu cwricwlwm syrcas, i gyfnewid syniadau am fynd i’r afael â’r diffyg cydbwysedd rhwng dynion a menywod yn y maes, a rhoi cynnig ar wahanol arddulliau syrcas.

Wrth adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn y preswyliad cyntaf hwnnw, rydym wedi llwyddo i gael cefnogaeth y Cyngor Prydeinig i ddatblygu prosiect perfformio rhyngwladol cyffrous: Drum Up a Circus.

 

drum up a circus

Nod y cynhyrchiad cydweithredol hwn oedd herio syniadau cymdeithas am rôl dynion a rôl menywod. Mae’r prosiect yn cyfuno arddulliau syrcas o Zambia ac Ewrop a drymio traddodiadol o Rwanda dan arweiniad merched er mwyn dathlu cryfderau unigryw’r partneriaid. Bu’r partneriaid yn cydweithio i greu darn o gelfyddyd ddigidol a all, nid yn unig groesi ffiniau cynulleidfaoedd, ond hefyd newid eu tybiaethau am y perfformwyr a’r mathau o gelfyddyd.


Cynhaliwyd yr ymweliad ymchwil a datblygu cyntaf, gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ym mis Ionawr 2020. Datblygodd y prosiect mewn ymateb i’r cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol oherwydd y pandemig ac, yn hytrach na chreu perfformiad byw, cafwyd cydgynhyrchiad digidol.

Caiff y ffilm a gydgrëwyd ei dangos am y tro cyntaf yn y tair gwlad ym mis Mai 2021.

    Drum_Up_A_Circus_RnD_Jan_2020_sketch_1.jpg Drum_Up_A_Circus_RnD_Jan_2020_sketch_2.jpg Drum_Up_A_Circus_RnD_Jan_2020_sketch_3.jpg Drum_Up_A_Circus_RnD_Jan_2020_sketch_4.jpg Drum_Up_A_Circus_RnD_Jan_2020_sketch_5.jpg Drum_Up_A_Circus_RnD_Jan_2020_sketch_6.jpg Drum_Up_A_Circus_RnD_Jan_2020_sketch_7.jpg Drum_Up_A_Circus_RnD_Jan_2020_sketch_8.jpg Drum_Up_A_Circus_RnD_Jan_2020_sketch_9.jpg Drum_Up_A_Circus_RnD_Jan_2020.png