Neidio i'r prif gynnwys
square mile page.jpg

beth yw dosbarthiadau'r filltir sgwâr?

Cyfle i gael gwybod mwy am ein gweithgareddau di-dâl ar gyfer pobl leol

 

beth yw'r filltir sgwâr?

Gweithgareddau ar gyfer y gymuned yn ardal fechan Adamsdown, Sblot a Thremorfa yw gweithgareddau'r Filltir Sgwâr.Sesiynau syrcas a gweithgarwch sy'n addas i ddechreuwyr ydynt. Mae llawer yn sesiynau galw-heibio neu'n addas i deuluoedd ac maent am ddim!

Chwiliwch yma am Ddosbarthiadau Milltir Sgwâr

(Fe welwch rai o'r gweithgareddau ar ein tudalennau 'Dosbarthiadau' â logo Milltir Sgwâr neu mae'n bosib toglo'r hidlydd chwilio i weld holl ddosbarthiadau'r Filltir Sgwâr.)

a gaf i ddod i weithgareddau'r filltir sgwâr?

Caiff y dosbarthiadau a'r gweithgareddau hyn eu hanelu at bobl sy'n byw ger adeilad Four Elms; yn Sblot, Adamsdown neu Dremorfa. Mae croeso hefyd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a phobl sy'n byw mewn tai â chymorth. 

Os ydych yn rhan o'n cymuned leol, mae croeso mawr i chi ymuno â ni yn y gweithgareddau di-dâl hyn. 

hoffech chi wybod rhagor?

Os nad ydych yn siŵr a gewch chi ddod i'r sesiynau hyn neu os hoffech ragor o wybodaeth, dewch draw i'n hadeilad ar Four Elms Road yn Adamsdown i gael sgwrs wyneb-yn-wyneb â thîm cyfeillgar y dderbynfa. 

Neu gallwch gysylltu â ni trwy ffonio 029 2022 1330, ebostio [email protected], neu lenwi'r ffurflen gysylltu isod:

*
*
*

* maes gofynnol

ble rydym ni:

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×