Neidio i'r prif gynnwys
circus_mundi_banner.jpeg

circus mundi

I ddathlu 250 mlwyddiant syrcas, daeth NoFit State â’u doniau ifanc mwyaf addawol ynghyd i berfformio darn newydd, a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer gŵyl deuluol yn Swydd Henffordd.

Yn 2018, aeth yr Herefordshire Family Festival ati i ddathlu 250 mlwyddiant y syrcas, felly bu The Courtyard, Henffordd yn cydweithio â NoFit State a’n Syrcas Ieuenctid i greu darn newydd, wedi’i gomisiynu’n arbennig, i’w berfformio yn eu prif neuadd!

Archwilio’r gorffennol, dathlu’r presennol, llunio’r dyfodol.

Daeth NoFit State â’u doniau ifanc mwyaf addawol ynghyd i berfformio darn newydd, a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer yr Herefordshire Family Festival. Ysbrydolwyd y sioe gan lawer o waith ymchwil i dreftadaeth y syrcas. Cafodd cynulleidfaoedd eu syfrdanu gan awyrgampau, acrobateg, jyglo a llawer mwy yn y perfformiad mwyaf uchelgeisiol hyd yma gan ein Syrcas Ieuenctid! Roedd yn adeiladu ar lwyddiant cynhyrchiad blaenorol y criw ifanc, Syrcas: 250 Oed a’n Dal yn Ifanc. 

Cadwch lygad yn agored am ragor o ddatblygiadau a pherfformiadau o Circus Mundi yn y flwyddyn newydd ac mae clipiau ffilm o’r sioe ar y ffordd! 

Ffotograffau gan Mark Robson.

cast a chriw circus mundi

Perfformwyr y Syrcas Ieuenctid

Liwanu Dodangoda Arachchi

Adela Howells-Pearce

Katie Jenkins

Filip Musialek

Julia Musialek

Morgan Palmer

Molly Richmond

Sam Richmond

Kaiya Thomas

Phoebe Webb

Ed Young

Lee Keenor (fel rhan o brosiect Pontio: Artistiaid Ifanc)

Ollii Park (fel rhan o brosiect Pontio: Artistiaid Ifanc)

 

Y Tîm Creadigol a’r Criw

Arweinydd Creadigol a Chynhyrchydd: Olga Kaleta

Cyfarwyddwyr: Francis Maxey ac Olga Kaleta

Dylunio a Chynhyrchu Clyweledol: Tamsie Thomas a Chris Thomas

Gwisgoedd: Rhi Mathews

Cyfarwyddwr Ymarferion/Rheolwr Llwyfan: Hannah O’Leary

Tiwtoriaid Gwadd: Bethan Dix, Esther Vivienne Fuge, Hannah O’Leary, Nat Whittingham

Rigiwr/Cymorth Cynhyrchu: Lee Tinnion

Goruchwylydd Gwisgoedd: Maisie Wolstenholme

Cynorthwyydd tiwtoriaid: Molly Turner 

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×