PT_STREETS_ALIVE_13_Kevin_R_OD_cPHamlet_SKY_landscape.jpg

Gŵyl stryd clifton

Dydd Sul 28 awst, 2022 Stryd Clifton yn Adamsdown

ymunwch â ni yng ngŵyl stryd clifton ar 28 awst! cyfle i ddathlu adamsdown

 

ble: stryd clifton yn adamsdown

pryd: dydd sul 28 awst, 2022 | 11am - 4pm

NoFit State mewn partneriaeth â chymuned Adamsdown – ymunwch â ni am ddiwrnod o ddathlu’n dechrau â pharêd, ac yna gyfuniad cyffrous o berfformio, gweithdai, bwyd, cerddoriaeth a llawer mwy.

Eleni, rydyn ni’n dathlu cymuned, lle a chartref – wedi’n hysbrydoli gan strydoedd Adamsdown a enwyd ar ôl metelau, gemau a chysawd yr haul.

y parêd

Bydd y diwrnod yn dechrau â pharêd ar droed o NoFit State Circus i Barc y Bragdy a bydd y sbloet agoriadol yn cynnwys pyped enfawr, rhyddredwyr/acrobatiaid, gwifren uchel, a mwy. Peidiwch â’i golli!!

Ble Cychwyn yn NoFit State Circus, Four Elms Road CF24 1LE a’n mynd i Barc y Bragdy. Cewch weld llwybr y Parêd yma…. Cliciwch yma

Pryd  Dechrau cyrraedd y man cyfarfod ar FourElmsRoadam 10am, a’r parêd yn dechrau am 11am.

Oes gennych chi olwynion? Dewch â’ch olwynion ac ymuno â ni yn y parêd! Cliciwch yma i gael gwybod mwy (link to call out)

yr ŵyl

Cynhelir yr ŵyl ar Stryd Clifton rhwng 12 a 4 o’r gloch gyda pherfformiadau, gweithdai, cerddoriaeth a bwyd. Bydd gweithgareddau ac adloniant amrywiol i bawb o bob oed. Croeso i bawb! Byddwn yn cau’r heol o Gold Street i Iron Street.  Cliciwch i weld y map

Bydd digwyddiadau’r diwrnod yn cynnwys Barracwda, perfformiadau syrcas gan NoFit State, Oasis One World Choir, rhyddredeg Fluidity, Capoeira, Upbeat Music, côr meibion Tenovus, ynghyd â storïwyr lleol, sesiwn rhannu barddoniaeth, Ingoma Nshya (grŵp drymio i fenywod o Rwanda), gêmau ffair traddodiadol, crefftredu a llawer mwy.

Dewch i grwydro’r siopau a stondinau bwydydd y byd ar Stryd Clifton.

Ble Stryd Clifton (Map)

Pryd Dydd Sul 28 Awst,12pm-4pm 

sut i gymryd rhan

Dewch draw ar y diwrnod! Mae’r holl weithgareddau am ddim a byddant yn digwydd rhwng 12 a 4 o’r gloch

ewch i hwyl yr ŵyl

Ewch i hwyl yr ŵyl mewn gwisg a ysbrydolwyd gan ‘y metelau, y gemau a chysawd yr haul’ neu wisg sy’n cynrychioli’ch diwylliant a’ch cymuned.

rhedwch i ffwrdd gyda’r syrcas am ddiwrnod

Hoffech chi helpu i gynnal yr Ŵyl? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i dorchi eu llewys a helpu i sicrhau bod yr Ŵyl yn llwyddiant. Nodwch eich diddordeb yma: [link]

rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â thîm y dderbynfa trwy

ebostio [email protected]

neu ffonio 02920 221 330

neu whatsapp 07500 970 567

Neu cadwch lygad yn agored am ein Cefnogwyr Cymunedol cyfeillgar yn crwydro’r ardal (link to bios)

Links to flyers, residents letters in all languages

Gŵyl Stryd Clifton 

Drigolion Adamsdown

Berchennog Busnes

cymerwch ran yn ein rhaglen weithgareddau wych dros yr haf!

Cewch ddewis o blith nifer o weithgareddau gwyliau sydd AM DDIM, yn cynnwys syrcas, crefftau, drymio ac offerynnau taro, a gwneud gwisgoedd er mwyn paratoi ar gyfer diwrnod yr ŵyl a’r parêd ar ddydd Sul 28 Awst.

Screenshot 2023-02-09 at 10.13.01.png

gwyl stryd clifton

cymerwch ran yn ein rhaglen weithgareddau wych dros yr haf!

Cewch ddewis o blith nifer o weithgareddau gwyliau sydd AM DDIM, yn cynnwys syrcas, crefftau, drymio ac offerynnau taro, a gwneud gwisgoedd er mwyn paratoi ar gyfer diwrnod yr ŵyl a’r parêd ar 28 Awst.

 

cydweithwyr

  • Cardiff Community Housing Association
  • Fluidity
  • Inkspot
  • Oasis
  • Railway Gardens - Green Squirrel
  • UpBeat
  • Ingoma Nshya
  • Haven Foods
  • St German’s
  • Local artists and creatives

cyfle i gwrdd â’ch cefnogwyr cymunedol 

Community_-_Sharon.jpeg

Sharon

Sharon yw crëwr a phrif olygydd Alienated Magazine, platfform a ysbrydolwyd gan arwahanrwydd y cyfnodau clo ac sy’n ceisio rhoi llais i bobl ifanc greadigol yng Nghymru. Mae cysylltu pobl trwy gelf a chreadigrwydd yn bwysig i Sharon ac mae'n llawn cyffro wrth ddod i nabod byd y syrcas. Mae Sharon yn credu'n gryf mewn ateb y galw am amrywiaeth ac ymateb i ofalon a phryderon pobl trwy greu gwaith y gallant wir uniaethu ag ef.

Community_-_Dave.jpeg

Dave

Yn ei eiriau ei hunan mae Dave, sy'n byw yn Adamsdown, yn quirky ac yn benderfynol. Mae wrth ei fodd â bît-bocsio ac yn blastrwr proffesiynol sydd byth yn llonydd. Mae ganddo lond trol o sgiliau a thalentau ac angerdd gwirioneddol dros helpu pobl i fynegi eu hunain. Yn ei rôl fel cefnogwr cymunedol, mae Dave yn gobeithio cyflwyno pobl sy'n ansicr sut i fynegi eu hunain i fyd y syrcas a’u hannog i ganfod ffordd o gyfleu eu creadigrwydd.  

Community_-_Kelly.jpeg

Kelly

Mae Kelly'n is-gadeirydd elusen i bobl ddigartref, sy'n darparu eitemau hanfodol i bobl fregus yng Nghaerdydd.  Bu’n gweithio am gyfnod yn nhafarn y Clifton er mwyn datblygu’r cysylltiadau lleol yr oedd yn gweld eu colli ers iddi symud o'r canolbarth. A hithau'n byw mewn ardal wledig cyn symud i Adamsdown, mae Kelly'n sylweddoli pa mor unig y gall fod i fyw mewn dinas ac mae hi eisiau grymuso pobl i feithrin cysylltiadau newydd ac ymwneud â'i gilydd mewn ffordd gynaliadwy. 

Community_-_Pearl.jpeg

Pearl

Dywed Pearl ei bod hi’n berson bybli, yn barod i helpu ac i rannu gwybodaeth. Mae ganddi orffennol diddorol, yn symud rhwng America, Jamaica, y Deyrnas Unedig, Y Traeth Ifori, Nigeria ac, yn fwyaf diweddar, yn treulio 5 mlynedd yn astudio am radd mewn economeg yn Tsieina. Y dyddiau hyn, mae i’w gweld yn aml yn gweithio yn Haven’s African Foods ar Stryd Clifton. Gan ei bod wedi symud o gwmpas gymaint, mae Pearl yn wych am greu cysylltiadau â phobl newydd ac mae’n llawn cyffro am greu’r digwyddiad yn Stryd Clifton gyda’i chymuned leol.