gweithgareddau gwyliau hanner tymor yr hydref ar gyfer pobl sblot, adamsdown a thremorfa
o ddydd gwener 27 hydref i ddydd sul 5 tachwedd
Buom yn cydweithio â mudiadau lleol i drefnu cyfres o weithgareddau i'r gymuned leol dros wyliau hanner tymor yr Hydref! Cewch ddewis o blith amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys syrcas, parkour, a chelf a chrefft i'ch cadw chi a’ch teulu'n brysur dros y gwyliau hanner tymor!
Sesiynau galw heibio oedd y rhan fwyaf, ond roedd angen cadw lle ymlaen llaw mewn ambell un.
Doedd dim rhaid talu am y sesiynau hyn oedd ar gyfer pobl Sblot, Adamsdown a Thremorfa, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a rhai'n byw mewn llety â chymorth.