Neidio i'r prif gynnwys
37130376_1031393600371426_4391059703120003072_o_1.jpeg

y pentref syrcas, avignon

Bydd pedwar o gwmnïau syrcas gyfoes gorau'r Deyrnas Unedig yn mynd gyda NoFit State i ddangos eu sioeau yn un o wyliau celfyddydau gorau Ffrainc, Avignon Le Off.

the shows

Ym mlwyddyn dathlu 250 mlwyddiant dyfeisio’r syrcas “fodern” gan Philip Astley ar lannau afon Tafwys yn Llundain, ac mewn cyfnod pan fo perthynas y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei hailddiffinio, rydym yn troi’r llifoleuadau at fyd y syrcas yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon trwy gyflwyno pum cwmni. 

Bydd tair pabell fawr, a chant o artistiaid a thechnegwyr yn croesi’r Sianel i gyflwyno doniau syrcas gorau’r Deyrnas Unedig yn Avignon. O geinder symudiadau coreograffig i aestheteg syml, o hiwmor gwirion i arddangosiadau ecsentrig, bydd y Pentref Syrcas yn eich cludo i fyd diwylliannol gwahanol. Mae’n ddatganiad eofn o berthyn i fyd rhyngwladol y syrcas ac yn arwydd o gelfyddyd sy’n ffynnu.

NoFit State Circus a gafodd yr ysbrydoliaeth i greu’r Pentref Syrcas. Maen nhw wedi’u hangori mewn syrcas ers dros 30 mlynedd a chânt eu cyfrif ymhlith arloeswyr syrcas gyfoes yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddynt raglen gynhwysfawr o deithiau a pherfformiadau sy'n cael eu canmol gan y beirniaid a chynlluniau pellgyrhaeddol ym maes addysg a datblygu'r sector, yn cynnwys Spotlight UK Circus.

Yn ystod 2017, mae Spotlight UK Circus mewn partneriaeth â Crying Out Loud, wedi cyflwyno perfformiadau a chyflwyniadau gan brif gwmnïau syrcas y Deyrnas Unedig yn Circa (Auch, Ffrainc) a Subtopia (Stockholm, Sweden). Yn 2018, mae iddo ran ganolog yn y Pentref Syrcas yn Avignon, yn cyflwyno pedwar cwmni o’r Deyrnas Unedig, ynghyd â chreadigaeth ddiweddaraf NoFit State, Lexicon.

Circus_Village.jpeg

unsuitable - tumble circus

3pm | 6 - 29  Gorffennaf

Anghofiwch y syniad sydd gennych am syrcas a dewch gyda’ch teulu i fwynhau awr wych o syrcas chwyldroadol a ysbrydolwyd gan Belfast. Mae gan Unsuitable gast o bum artist syrcas adnabyddus o Iwerddon, y Ffindir, Sweden, y Swistir ac Awstralia ac mae’n adrodd stori criw o berfformwyr sy’n chwilio am ddireidi’r syrcas ond sydd wedi’u caethiwo mewn byd o boen ac anoddefgarwch. Mae yno eiliadau o farddoniaeth gorfforol. Mae yno gampau syrcas ysblennydd. Mae yno gwestiynau am rywedd, am ethnigrwydd, am hunaniaeth, ac mae yno gomedi. Bydd pobl yn chwerthin, bydd pobl yn ystyried a bydd pobl yn rhyfeddu.

gwybod rhagor
Circus_Village4_copy.jpeg

knot - nikki & jd

4.45pm | 6 - 29  Gorffennaf

Daw dau acrobat wyneb yn wyneb. Cwympant mewn cariad a breuddwydio am y dyfodol. Ond o dan yr wyneb, mae yna wirionedd sy’n bygwrth tanseilio’r cwlwm sydd rhyngddynt.

Mae Knot yn stori dorcalonnus ond digri am garwriaeth fodern. Caiff ei hadrodd mewn modd sensitif trwy ddawns ac acrobateg syfrdanol.  Mae sioe Nikki a JD yn dilyn eu hymddangosiad yn Kin gan Barely Methodical Troupe a gafodd ei chanmol yn fawr gan y beirniaid. 

gwybod rhagor
Circus_Village2.jpeg

tipping point - ockham's razor

18h00 | 14 - 29  Gorffennaf

Yn Tipping Point, mae agosatrwydd arbennig rhwng yr artistiaid a’r gynulleidfa sy’n gylch o’u cwmpas. Mae pum polyn metal a phum perfformiwr yn creu cyfres rymus o ymadroddion barddonol mewn awyrgylch o gysgodion a cherddoriaeth hypnotig.

Mae’r polion tal, trwm yn cael eu crogi o’r to neu eu trafod gan y criw, gan droi’n si-so enfawr, yn rhaff dynn i'w chroesi ar flaenau’r traed, yn lifer, yn bendil, yn ddringfa ac yn rhwystrau sy’n pendilio yn ôl a blaen. Mae’r perfformwyr yn gafael yn dynn yn y byd simsan hwn gan gefnogi’i gilydd wrth iddynt ymgodymu â’r eiliad pan fo pethau’n dechrau symud.  Nid dychryn ac ysgytio yw bwriad y sioe, ond ysgogi teimlad o ryfeddod wrth i’r artistiaid addasu’r berthynas sydd rhyngddynt â’i gilydd, gofod a disgyrchiant. Syfrdanol!

gwybod rhagor
Circus_Village3_copy.jpeg

lexicon - nofit state

20h00 | 6 - 29  Gorffennaf

Perfformiad grymus sy’n ddathliad gwyllt o syrcas ddoe, heddiw ac yfory yw creadigaeth ddiweddaraf NoFit State.  Mae’n chwarae â chodau traddodiadol y genre, yn eu plygu, eu hystumio a’u cyfuno â geirfaoedd newydd, gan ailddyfeisio’r lecsicon.

Mae LEXICON yn creu byd y dieithryn distaw a barddoniaeth ddireidus, byd unigryw o hudoliaeth, chwerthin ac ysgafnder. Mae’r ffiniau rhwng syrcas draddodiadol a chyfoes yn cymylu mewn perfformiad lle mae pawb yn gwneud popeth a'r gynulleidfa’n eistedd mewn cylch o’u cwmpas.

Annisgwyl, llawn syrpreisys ac asbri.

gwybod rhagor
Circus_Village5.jpeg

flown - pirates of the carabina

22h00 | 6 - 29  Gorffennaf

Beiddgar, eofn a syfrdanol. Mae Flown yn adrodd stori criw cymysg o acrobatiaid, awyrgampwyr, cerddorion a styntwyr anhygoel sy'n ceisio cael trefn ar sioe.

Ond does dim trefn ar neb ac mae sawl anffawd, anlwc a chamddealltwriaeth yn dod ar eu traws.  Dyma syrcas lle gall unrhyw beth fynd o chwith ac mae disgwyl helbul. Annhrefn ac iddo goreograffi hyderus yw Flown, a’r perfformwyr yn hedfan, yn ymdaflu, yn troelli ac yn pendilio ar draws y set gydag amseru perffaith. Mae'n llawn cyffro, campau, chwerthin a cherddoriaeth, yn fawreddog, yn frwd ac yn hollol, hyfryd o wallgo. Pleser, syndod ac ysbrydoliaeth i’r teulu cyfan!

gwybod rhagor

Support the development of a truly creative, diverse and resilient circus sector by donating today:

Cyfrannwch £

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×