Neidio i'r prif gynnwys
Goalu-website-banner-1.jpg

Golau Parc Light

Mae Cymuned NoFit State a Phartneriaeth Milltir Sgwâr yn falch o gael cyflwyno Golau Parc Light: Gŵyl Tân a Golau.

 

Mae Cymuned NoFit State a Phartneriaeth Milltir Sgwâr yn falch o gael cyflwyno Golau Parc Light: Gŵyl Tân a Golau. Dyma ddigwyddiad cymunedol sydd am ddim ar gyfer pobl Sblot, Adamsdown a Thremorfa yn nwyrain Caerdydd. Bydd yn digwydd ym Mharc Helen/Parc y Bragdy rhwng 5:00 a 7:30 o'r gloch nos Wener 16 a nos Sadwrn 17 Chwefror 2024. 
 
Ar y ddwy noson, byddwn yn troi Parc Helen/Parc y Bragdy yn baradwys o oleuni, llawn gweithgareddau di-dâl a bydd cacen a siocled poeth ar gael am ddim. Am 6:30 bydd sioe anhygoel yn cynnwys perfformiadau syrcas, cerddoriaeth a thân gan artistiaid lleol dawnus.

lluniau o'r llynedd

    fire show nofitstate citrus-101.jpg fire show nofitstate citrus-212.jpg fire show nofitstate citrus-224.jpg fire show nofitstate citrus-255.jpg fire show nofitstate citrus-333.jpg fire show nofitstate citrus-313.jpg fire show nofitstate citrus-349.jpg fire show nofitstate citrus-305.jpg

Beth gaf i ei wneud?

•    Dysgu rowlio cannwyll
•    Creu paentiadau golau LED rhyfeddol
•    Gwneud lantern
•    Gwrando ar stori
•    Rhoi cynnig ar sgiliau syrcas
•    Canu gyda chôr
•    Gwylio'r sioe

Cerddwch gyda ni!

Os ydych yn byw yn Nhremorfa neu Sblot, cewch gerdded i'r parc gyda ni! Byddwn yn cychwyn am 4:30 o Hyb Star, Heol Muirton, CF24 2SJ gan fynd o dan Bont y Sblot ac i fyny Heol y Sblot i gyfeiriad Parc Helen/Parc y Bragdy. Mae croeso mawr i chi ymuno â ni os dymunwch. Dewch â golau neu lantern gyda chi (dim canhwyllau na thân agored plis!)
 
Byddwn yn cerdded yn ôl i Hyb STAR gyda'n gilydd ar hyd yr un ffordd ar ôl y sioe hefyd, gan adael y parc tua 7:30 o'r gloch.

Rhagolygon y Tywydd

Newyddion 16:30:  Mae’r digwyddiad yn mynd ymlaen yn y parc fel y trefnwyd!

wild green squirrel.png

Gweithgareddau Hanner Tymor

12 – 17 Chwefror (2024)

Buom yn cydweithio â mudiadau lleol i drefnu cyfres o weithgareddau i'r gymuned leol dros wyliau hanner tymor yr Hydref! Cewch ddewis o blith amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys syrcas, parkour, a chelf a chrefft i'ch cadw chi a’ch teulu'n brysur dros y gwyliau hanner tymor! 

Find out More
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×