Neidio i'r prif gynnwys
AsATiger_FB_Banner4_-_Copy.jpeg

as a tiger in the jungle

Circus Xanti / Ali Williams Productions, gyda chefnogaeth NoFit State

Tri pherfformiwr o Nepal yn gofyn cwestiynau am fywyd, cariad, tlodi a thrachwant. Maent yn defnyddio geiriau, symudiadau, syrcas a seremoni i adrodd sut y bu iddynt lwyddo, yn nannedd anfanteision, i oroesi eu plentyndod a chreu eu tynged eu hunain. Mae’n berfformiad ysbrydoledig, argyhoeddiadol, amrwd sy’n cynhesu’r galon, am fywyd a syrcas, adloniant a myfyrdod. 

Fe’i cynhyrchwyd trwy bartneriaeth ryngwladol rhwng cyfarwyddwyr artistig o nofitstate (Cymru) a Cirkus Xanti (Norwy). Bydd As a Tiger in the Jungle yn brofiad unigryw o syrcas theatraidd!

Cefnogwyd gan NoFit State, Pontio, Baerum Kulturhus, Porsgrunn International Theater Festival, Black-E, ChoraChori Nepal.

Canllaw oedran: 8+

 

dyddiadau

Taith trwy Brydain 2019

Taith trwy Gymru a Lloegr yng ngwanwyn/haf 2019

 

13 Chwefror

 

Subcase Subtopia Circus Fair

Dieselverkstaden
Marcusplatsen 17
131 54 Nacka
Sweden

   

4 Ebrill

Enableus Fest

Sheffield University, Octagon Centre, Clarkson Street, Sheffield,
S10 2TQ

16 Ebrill

Ffwrnes

Park Street, Llanelli,
SA15 3YE

17 / 18 Ebrill

Circomedia

Portland Square, St Paul’s, Bristol,
BS2 8SJ

2 – 3 Mai 

Riverfront Theatre

Bydd gwasanaeth BSL a sain-ddisgrifio ym mherfformiad dydd Gwener.

Mae'r Daflen Sain i'w gweld yma.

Kingsway, Casnewydd,
NP60 1HG

9 Mai

Lincoln Drill Hall

Free School Lane, Lincoln,
LN2 1EY

12 Mai

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth
SY23 3DE

17 - 18 Mai

Stratford Circus

Stratford Circus Arts Centre, Theatre Square, Stratford, London, 
E15 1BX

22 - 25 Mai

Brighton Fringe

Brighton Open Air Theatre, Park Dyke Road, Hove,
BN3 6EH

29 Mai

Warwick Arts Centre

 

University of Warwick, Coventry,
CV4 7AL

31 Mai

The Civic

Hanson Street, Barnsley,
S70 2HZ

6 Mehefin

Salisbury Festival

Salisbury Playhouse,
Malthouse Lane, Salisbury
SP2 7RA

8 – 9 Mehefin

Theatre Brycheniog

 

Canal Wharf, Aberhonddu,
LD3 7EW

15 Mehefin

Galeri

Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd,
LL55 1 SQ

20 – 22 Mehefin

Theatr Mwldan

Bath House Road, Aberteifi
SA43 1JY

26 – 30 Mehefin

Glastonbury Festival

Worthy Farm, Worthy Lane, Pilton, Shepton Mallet, Somerset,
BA4 4BY

 

Diolchiadau

Cast: Renu Ghalan Tamang (Nepal), Aman Tamang (Nepal) a Loan TP Hoang (Fietnam/Norwy)

Awdur/Cyfarwyddwr: Sverre Waage (Norwy)

Cynhyrchydd Creadigol: Ali Williams (Cymru)

Cerddoriaeth: Per Zanussi (Norwy/yr Eidal)

Cerddorion yn y stiwdio: Halpreet Bansal (India/Norwy), Sanskriti Shrestha (Nepal) a Per Zanussi (Norwy)

Set - a Dylunio Gwisgoedd: Rhi Matthews (Cymru)

Set - a Dylunio Rig y Syrcas: Tarn Aitken (Lloegr)

Dylunio'r goleuo: Leif LePage (Ffrainc/Cymru)

Helpu â'r goreograffeg a sgiliau syrcas: Hanna Filomen Mjåvatn (Philippines/Norwy) a Mish Weaver (Lloegr)

 

Cysylltydd

Ali Williams [email protected]

http://aliwilliams.pro/

 

Cefndir

Perfformiad cryf i gynhesu'r galon am blant a achubwyd o fod yn gaethweision mewn syrcasau traddodiadol Indiaidd. 

Ysbrydolwyd y perfformiad gan fywydau a phrofiadau ein perfformwyr Renu ac Aman a fu'n gaethweision syrcas yn India pan oeddent yn blant. Mae hefyd yn amlygu stori plant eraill o Nepal a fasnachwyd i fod yn gaethweision mewn syrcasau traddodiadol Indiaidd. Ers 2002, pan ddarganfuwyd hyn, mae dros 700 o blant wedi'u canfod a'u hachub neu eu rhyddhau. 

Yn 2013, treuliodd y cynhyrchydd Ali Williams flwyddyn yn Gyfarwyddwr Creadigol Syrcas Kathmandu. Roedd Syrcas Kathmandu yn grŵp o 13 o ddynion a merched ifanc a oedd wedi'u hachub o syrcasau Indiaidd, a'n perfformwyr ni, Renu ac Aman, yn eu plith. 

Gwahoddodd Ali Williams y cyfarwyddwr Sverre Waage i ddod i Kathmandu i gwrdd â'r cwmni syrcas newydd. Dyna oedd cychwyn cynllun cydweithio rhwng Ali a Sverre, gyda’r nod o adeiladu pontydd rhwng y sîn syrcas oedd yn datblygu yn Kathmandu a’r gymuned ryngwladol o gynhyrchwyr a rhaglenwyr y celfyddydau perfformio yn y Deyrnas Unedig, Norwy ac Ewrop.

Y peth cyntaf iddynt ei gyflawni yw cynhyrchu As a Tiger in The Jungle a mynd â'r sioe ar daith. Dyma bartneriaeth ryngwladol rhwng y dramodydd a'r cyfarwyddwr arobryn Sverre Waage (Norwy) ac Ali Williams (Cymru), cyd-sylfaenydd a chyn-gyfarwyddwr artistig NofitState. 

Bu Ali a Sverre yn cydweithio â’r ddau artist syrcas o Nepal, Renu ac Aman, dros y tair blynedd diwethaf ac, ar gyfer y prosiect hwn, maent wedi cynnwys Loan TP Hoang, ffoadur o Fietnam, a’i stori hi am blentyndod coll. Mae As a Tiger in The Jungle yn gyfuniad unigryw o berfformiadau, syrcas a cherddoriaeth Asiaidd ac Ewropeaidd. Cyfansoddwyd y sgôr gerddoriaeth wreiddiol gan Per Zanussi.

Yr Hyn a Fu

Cyfnod cynhyrchu 2017:

17 - 12 Gorffennaf 2017   Preswyliad gyda NoFit State Circus a Ballet Cymru, Cymru

14 - 25 Gorffennaf 2017   Preswyliad ym mhentref syrcas Sandvika, Norwy

28 Awst - 9 Medi 2017   Preswyliad yn Theatr Sandvika, Bærum Kulturhus, Norwy

8 Medi 2017   Premiere caeedig yn Theatr Sandvika, Norwy

Taith trwy Brydain 2017:

22 - 23 Medi 2017   The Rep Theatre, Birmingham, Lloegr

7 - 8 Hydref 2017   Canolfan Pontio, Bangor, Cymru

10 - 11 Hydref 2017   Jackson Lane Theatre, Llundain, Lloegr

15 - 16 Hydref 2017   Circomedia, Bryste, Lloegr

24 - 25 Hydref 2017   Canolfan y Mileniwm, Caerdydd, Cymru

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×