Neidio i'r prif gynnwys
summer programme banner temp.png

hwyl haf di-dâl 2023

Dewch i gymryd rhan yn rhaglen weithgareddau'r haf, Gorffennaf - Medi, ar gyfer cymuned Sblot, Adamsdown a Thremorfa.

rhaglen weithgareddau'r haf ar gyfer pobl adamsdown, sblot a thremorfa

o ddydd gwener 21 gorffennaf i ddydd sadwrn 2 medi  

Eleni buom yn gweithio mewn partneriaeth â mudiadau lleol ac artistiaid llawrydd i gyflwyno rhaglen o hwyl haf ar gyfer ein cymuned leol! Roedd cyfle i ddewis o blith amrywiaeth o weithgareddau gwyliau DI-DÂL yn cynnwys syrcas, dawns, parkour, a chelf a chrefft i'ch cadw chi a’ch teulu'n brysur dros wyliau haf yr ysgolion! Cyflwynwyd y rhaglen gyffrous hon o weithgarwch yma a thraw yn yr ardal gan y mudiadau lleol NoFit State Circus, Green Squirrel, Rubicon, Fluidity, Oasis a CCHA a’r artistiaid Flow Maugran a Rachel Helena Walsh. 

Sesiynau galw heibio oedd y rhan fwyaf, ond roedd angen cadw lle ymlaen llaw mewn ambell un. 

Doedd dim rhaid talu am y sesiynau hyn oedd ar gyfer pobl Sblot, Adamsdown a Thremorfa, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a rhai'n byw mewn llety â chymorth.  

ble roedd y gweithgareddau

Cynhaliwyd rhaglen yr haf yn Sblot, Adamsdown a Thremorfa (gydag un digwyddiad yn y Rhath ac un yn Butetown!)

Mae'r lleoliadau i'w gweld ar y map isod. Dyma'r cyfeiriadau yn ôl ardal:

SBLOT

  • Parc Sblot, Heol Muirton, SBLOT, Caerdydd, CF24 2SN
  • Oasis Cardiff, 69B Heol y Sblot, SBLOT, Caerdydd, CF24 2BW  (cysylltwch ar 02920 460424)
  • Gerddi'r Rheilffordd, Pen draw Adeline Street, SBLOT, Caerdydd, CF24 2BH (cysylltwch ar 07542 074303 neu [email protected])

ADAMSDOWN

  • Caeau Anderson, Constellation St, ADAMSDOWN, CF24 2AE
  • Syrcas Gymunedol NoFit State, Four Elms Road, ADAMSDOWN, CF24 1LE (cysylltwch ar 02920 221330 neu [email protected])
  • Rubicon Dance, Nora Street, CF24 1ND (cysylltwch ar [email protected])

TREMORFA

ARALL

Sylwch: Efallai nad y ganolfan oedd yn rhedeg y sesiynau.

digwyddiadau un-tro

 

Rachel Take me with you2.JPG

cer â fi adre gyda rachel walsh

2 awst, 1pm - 2.30pm

Gerddi'r Rheilffordd, Pen draw Adeline Street, SBLOT, CF24 2BH

Mae "Cer â Fi Adre" yn weithdy hwyliog, creadigol i deuluoedd, yn sôn am obaith, hapusrwydd a charedigrwydd. Cewch lenwi potel â geiriau caredig, atgofion hudolus a phethau sy'n gwneud i chi wenu. Yna, byddant yn cael eu harddangos yn Gwledd Parc Feast lle caiff dieithriaid eu gwahodd i fynd â photel adre i'w hagor pan fydd angen. 

Rhaid i blant dan 9 fod yng nghwmni oedolyn.

Dim angen bwcio​​​​​​​

Accessories_with_Flow.jpg

prynhawn prysur gyda ccha a nofit state

14 awst, 12.30pm - 2.30pm

CCHA Culture and Media Centre, Sgwâr Loudoun, BUTETOWN, CF10 5HW

Prynhawn o hwyl i'r teulu cyfan gyda llond lle o weithgareddau cyffrous i bob oed yn cynnwys sgiliau syrcas gyda NoFit State.  

Dim angen bwcio, dewch draw!

circus and craft - Rachel Take me with you4.JPG

gweithdy syrcas a chrefftau gyda nofit state a rachel walsh

31 awst, 1pm - 3pm

Syrcas Gymunedol NoFit State, Four Elms Road, ADAMSDOWN, CF24 1LE

Dewch draw i NoFit State am brynhawn o weithgareddau teuluol. Bydd yno syrcas, crefftau a hwyl i bob oed! Beth am aros ar gyfer sesiwn canu a symud Côr Un Byd Oasis am 3pm? 

Bydd hyfforddwyr syrcas NoFit State wrth law i ddysgu triciau syrcas cyffrous yn cynnwys hŵla hŵpio, diablo, gwifren dynn, jyglo, acrobateg a mwy…

Bydd Rachel Walsh yn hwyluso "Cer â Fi Adre", gweithdy hwyliog, creadigol, yn sôn am obaith, hapusrwydd a charedigrwydd. Cewch lenwi potel â geiriau caredig, atgofion hudolus a phethau sy'n gwneud i chi wenu. Yna, byddant yn cael eu harddangos yn Gwledd Parc Feast lle caiff dieithriaid eu gwahodd i fynd â photel adre i'w hagor pan fydd angen. 

Darperir diodydd a snacs. 

Dim angen bwcio

Rubicon Dance high Res - 263_Sian_Trenberth_Photography_DA19-22 compressed.jpg

gweithdy dawns (ysgol haf 11+) gyda rubicon

27 gorffennaf, 10am - 1pm

Rubicon Dance, ADAMSDOWN, CF24 1ND

Gweithdy dawns hwyliog yn gweithio ar sgiliau perfformio, techneg a chreadigrwydd. Darperir cinio

Ar gyfer pwy mae hwn? 11+ oed

MAE ANGEN BWCIO 

Ebostiwch [email protected] i fwcio

 

(llun diolch i Sian Trenberth)

oasis one world choir.jpeg

gweithdy canu a dawnsio gyda chôr un byd oasis

31 awst, 3pm - 4.30pm

NoFit State, Four Elms Road, ADAMSDOWN, CF24 1LE

Prynhawn o gerddoriaeth a symud gyda Chôr un Byd Oasis. Byddant yn rhannu cân newydd y maent wedi'i hysgrifennu'n arbennig ar gyfer Gwledd Parc! Dewch draw i ddysgu'r geiriau a'r symudiadau er mwyn i chi ymuno ar y diwrnod.

Dim angen bwcio

glass painting holder image.png

gweithdy paentio gwydr

1 awst, 3pm - 5pm

Oasis Cardiff, 69B Heol y Sblot, SBLOT, CF24 2BW

Gwahoddir teuluoedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ymuno ag Oasis i drawsnewid cwpanau, platiau, fasys a jariau gwydr yn rhywbeth hardd i fynd adre gyda chi. Darperir yr holl ddefnyddiau a lluniaeth. 

Ar gyfer pwy mae hyn? Teuluoedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dim angen bwcio

 

 

digwyddiadau aml-dro

 

Green Squirrel - Seed bomb making (credit Polly Thomas) compressed.jpg

straeon byd natur gyda Hyb STAR

Dyddiau Llun 24 a 31 gorffennaf, 7, 14, 21 and 29 awst 3pm - 4pm

Hyb STAR, Heol Muirton, TREMORFA, CF24 2SJ

Bydd y sesiynau gweithgareddau hyn a ysbrydolir gan fyd natur yn dechrau â straeon am ryfeddodau'r goedwig, plymwyr dŵr dwfn, rhyfeddod bwystfilod bach a'n byd godidog a byddant yn dod i ben â gweithgareddau celf a chrefft creadigol yn gysylltiedig â chymeriadau a themâu'r llyfrau. Dewch draw i wrando ar straeon hynod y byd o'ch cwmpas, dysgu sgiliau newydd, a phrofi byd natur mewn ffyrdd newydd, rhyfeddol. 

Ar gyfer pwy mae hyn? Plant 5+ oed

Dim angen bwcio

(llun diolch i Polly Thomas)

support_web_header_4.jpg

syrcas sul yn y parc gyda nofit state

Ymunwch â'n tiwtoriaid syrcas gwych i gael hwyl yn y parc! Dysgwch driciau syrcas newydd, difyr a rhoi cynnig ar sgiliau amrywiol yn cynnwys jyglo, hŵla hŵpio, gwifren dynn ac acrobateg. Does dim angen profiad blaenorol arnoch.

parc sblot

30 gorffennaf, 6 awst 12.30pm-2pm

Parc Sblot, Heol Muirton, SBLOT, CF24 2SN

parc tremorfa

13, 20 a 27 awst 12.30pm-2pm

Parc Tremorfa, Heol Handley, TREMORFA, CF24 2HF

caeau anderson

30 gorffennaf, 6,13, 20 a 27 awst 3pm-4.30pm

Caeau Anderson, Constellation St, ADAMSDOWN, CF24 2AE

 

Dim angen bwcio – dewch draw i’r parc!

wild green squirrel.png

chwarae gwyllt | celf wyllt | syrcas gwyllt gyda green squirrel

Gerddi'r Rheilffordd, Pen draw Adeline Street, SBLOT, CF24 2BH

chwarae gwyllt

9 awst 10.30am - 11.30am

16 awst 11am - 2pm

Chwarae Gwyllt - Byddwch yn greadigol a chreu den gysurus, sleid dŵr gwyllt, tŵr tal a llawer mwy yn y sesiynau chwarae awyr-agored hyn.  Te, coffi a sgwash ar gael.

Ar gyfer pwy mae hyn? Pob oed 

celf wyllt

8, 15 a 22 awst 10.30am - 12pm

Celf Wyllt - Dewch i greu teilsen geramig blodyn gwyllt.  Darperir cinio. ANGEN BWCIO YMLAEN LLAW - 07542 074303 neu [email protected] (7-12 oed)

 Ar gyfer pwy mae hyn? Plant 7-12 oed

syrcas wyllt

2 a 29 awst 1pm - 2.30pm

Syrcas Gwyllt - Sgiliau syrcas gyda NoFit State a gweithgareddau crefftau. Te, coffi a sgwash ar gael.

 Ar gyfer pwy mae hyn? Pob oed​​​​​​​

parkour.png

rhowch gynnig ar parkour gyda fluidity

Rhowch gynnig ar Parkour 

Ymunwch â chriw Fluidity Freerunning i roi cynnig ar parkour.  Bydd eu hyfforddwyr cymwys yn eich tywys trwy nifer o symudiadau sylfaenol mewn awyrgylch diogel a chefnogol.  O neidiau manwl i rediadau wal, bydd y tîm yn eich arwain trwy heriau cyffrous, gan feithrin gwaith tîm a hwyl i bob oed.  Rhyddhewch eich ninja mewnol!  

Ar gyfer pwy mae hwn? 4+ oed

*Rhaid i blant fod yng nghwmni rhywun dros 14 oed

rhowch gynnig ar parkour @ caeau anderson

23 gorffennaf 3pm - 4.30pm

Caeau Anderson, Constellation St, ADAMSDOWN, CF24 2AE

rhowch gynnig ar parkour @ fluidity

30 gorffennaf, 26 awst 12pm - 2pm

Fluidity Freerun Academy, Unit G St Catherines Park, Pengam Road, TREMORFA, CF24 2RZ

 

Dim angen bwcio, dewch draw!

Accessories_with_Flow.jpg

prynhawniau prysur gyda ccha a flow maugran

28 gorffennaf, 4, 11, 18 a 25 awst, 1 medi, 12pm - 5pm

Canolfan Gymunedol Tremorfa, Tweedsmuir Rd, TREMORFA, CF24 2QZ

Prynhawn Prysur – Hwyl i’r teulu cyfan gyda gwahanol weithgareddau cyffrous bob wythnos yn Neuadd Gymunedol Tremorfa.  Byddant yn cynnwys cyfres o weithdai yng nghwmni Flow Maugran, gan wneud masgiau o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu ar gyfer Parêd Gwledd Parc! 

Ar gyfer pwy mae hyn? Pob oed

Dim angen bwcio, dewch draw!​​​​​​​

support_web_header_4.jpg

syrcas gyda nofit state

NoFit State Circus, Four Elms RoadCF24 1LE

Ymunwch â'n tiwtoriaid syrcas gwych i ddysgu triciau syrcas difyr a rhoi cynnig ar sgiliau newydd.  Mae gennym sesiynau ar gyfer oedolion, pobl ifanc, plant a theuluoedd a chaiff pawb roi cynnig ar jyglo, hŵla hŵpio, gwifren dynn, awyrgampau, acrobateg a mwy. Does dim angen profiad blaenorol arnoch.

cyflwyniad i syrcas 

27 gorffennaf, 3 ac 17 awst, 12.30pm - 2pm

NoFit State, Four Elms Road, ADAMSDOWN, CF24 1LE

Ar gyfer pwy mae hwn? 16+ oed

syrcas @ hyb star

24 a 31 gorffennaf, 12.30pm - 4pm​​​​​​​

Hyb STAR, Heol Muirton, TREMORFA, CF24 2SJ

syrcas @ boomerang

7 a 21 awst, 12.30pm - 2pm ​​​​​​​

Boomerang Indoor Training Facility, Unit 7 Clydesmuir Road Industrial Estate, TREMORFA, CF24 2QS

Ar gyfer pwy mae hwn? 3-12 oed

 

seren arts.jpg

sesiwn chwarae gyda seren in the community @ boomerang

27 gorffennaf, 3, 24 a 31 awst, 2pm - 4pm

Boomerang Indoor Training Facility, Unit 7 Clydesmuir Road Industrial Estate, TREMORFA, CF24 2QS

Ymunwch â Seren in the Community am sesiynau chwarae hwyliog a chreadigol yn Boomerang. Dyma sesiynau sy'n addas i blant o bob oed, gan annog chwarae llawn dychymyg gyda llu o wahanol bethau a defnyddiau. Mae angen bwcio

Ffoniwch 02920-497724 neu ebostio [email protected]

 

Seren play5.jpg

sesiwn chwarae gyda seren in the community

sesiwn chwarae @ caeau anderson

25 gorffennaf, 1, 15, 22 a 29 awst, 11am - 1pm

Caeau Anderson, Constellation St, ADAMSDOWN, CF24 2AE

Ymunwch â Seren in the Community am sesiynau chwarae hwyliog a chreadigol yn yr awyr iach. Dyma sesiynau sy'n addas i blant o bob oed, gan annog chwarae llawn dychymyg gyda llu o wahanol bethau a defnyddiau.

sesiwn chwarae @ parc sblot

27 gorffennaf, 3, 17, 24 a 31 awst, 11am - 1pm

Parc Sblot, Heol Muirton, SBLOT, CF24 2SN

Beth am alw heibio i Bantri Tremorfa cyn ymuno â Seren in the Community yn y parc? Cewch gasglu picnic i'r teulu am £4 o Pantri Tremorfa a dod ag ef gyda chi – amser casglu i'w weld ar dudalen Facebook Tremorfa Community Pantry! Dyma sesiynau awyr-agored sy'n addas i blant o bob oed, gan annog chwarae llawn dychymyg gyda llu o wahanol bethau a defnyddiau. 

sesiwn chwarae @ star hub

dyddiau mawrth 25 gorffennaf, 1, 15, 22, 29 awst, 2-4pm

dyddiau mercher 16, 23 a 26 awst, 2pm - 4pm

Ymunwch â Seren in the Community am sesiynau chwarae hwyliog a chreadigol yn Hyb STAR. Dyma sesiynau sy'n addas i blant o bob oed, gan annog chwarae llawn dychymyg gyda llu o wahanol bethau a defnyddiau. 

Dim angen bwcio

Accessories_with_Flow.jpg

gweithdy celf a gwneud gwisgoedd

28 gorffennaf, 4, 18 a 25 awst, 1 medi, 10.30am - 12.30pm

Parkminster United Reformed Church, Minster Rd, RHATH, CF23 5AS

Mae Aurora Trinity Collective yn cynnal gweithdai gwehyddu creadigol am ddim i fenywod* bob dydd Gwener o 21 Gorffennaf hyd at 1 Medi yn Parkminster United Reformed Church, Heol Minster, Caerdydd, CF23 5AS.  Cynhelir y sesiynau o 10:30 i 12:30, mae croeso i bawb a darperir yr holl ddeunyddiau.  Mae croeso i blant hefyd.  Bydd plant dan bump oed yn ymuno yn sesiwn chwarae creadigol Cyngor Ffoaduriaid Cymru.  Caiff plant 6 - 13 oed gymryd rhan mewn gweithdai gwneud masgiau a phypedau.  I gael gwybod mwy, e-bostiwch [email protected] neu anfon neges destun ar 07598972771.

* Mae ein sesiynau yn fannau penodol ar gyfer menywod, yn cynnwys menywod traws, pobl ryngryw a phobl anneuaidd sy'n ymdeimlo â'r profiad o fod yn fenyw mewn rhyw ffordd. Mae ein gofod yn ddiogel ac yn gynhwysol ac mae'n meithrin cyfeillgarwch ac agosrwydd. Mae croeso i blant o bob rhywedd. 

Cefnogir y digwyddiadau hyn gan Aurora Trinity Collective, Artes Mundi, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Canolfan y Drindod a The Square Mile Collective

Ar gyfer pwy mae hyn? Ceiswyr lloches/ffoaduriaid sy'n fenywod neu'n anneuaidd, a phlant o bob rhywedd

Dim angen bwcio, dewch draw!

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×