Neidio i'r prif gynnwys
agm2022.png

Gwahoddiad i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Pharti Nadolig 2022

Cwmpeini |

Gwahoddiad i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Pharti Nadolig 2022

Nos Wener 9 Rhagfyr 2022, 6pm – 12am

NoFit State Community Circus, Four Elms, Four Elms Road, Caerdydd CF24 1LE

Eleni, caiff ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ei ddilyn gan barti Nadolig NoFit State, gyda cabaret syrcas gymunedol, tryciau bwyd, ystafell i’r plant, band byw, dj, a bar. 

CCB o 6pm ymlaen

Cynhelir y CCB bob blwyddyn, a dyma pryd rydym yn rhoi gwybod i’n haelodau beth rydym wedi bod yn ei wneud a beth yw ein cynlluniau.

Yn y cyfarfod, caiff ein cyfrifon blynyddol eu cyflwyno a’u cadarnhau, ac mae cyfle i’r aelodau astudio’r dogfennau a gofyn cwestiynau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r staff.

Bydd angen i chi fod yn aelod o’r cwmni i bleidleisio yn y CCB ond peidiwch â phoeni, mae ymuno’n hawdd! Dim ond £5 y flwyddyn yw Aelodaeth o’r Cwmni a gallwch ei dalu ymlaen llaw trwy gysylltu â’r Dderbynfa (02920 221 330) neu yn y CCB ei hunan.

Gobeithio y gallwch ymuno â ni wrth i aelodau’r gymuned, aelodau’r cwmni a’r ymddiriedolwyr ddod ynghyd i drafod gwaith y cwmni.

Bydd pobl sy’n byw yn bellach neu a fyddai’n teimlo’n fwy cyfforddus mewn cyfarfod rhithwir yn gallu dewis ymuno â’r CCB ar Zoom.

Cofrestru i ddod i’r ccb ar y safle

Cofrestru i ddod i’r ccb ar zoom

Lawrlwythwch agenda’r CCB yma

Lawrlwythwch gofnodion CCB 2021 yma

Os hoffech ddarllen ein cyfrifon archwiliedig, maent i’w gweld yma

Parti Nadolig o 8pm tan 12am

Ar ôl y CCB rydyn ni’n cael parti! Bydd perfformiadau cabaret syrcas Nadoligaidd gan aelodau ein cymuned, perfformiad byw gan y band lleol Dusty Cut a DJs tan yn hwyr.

Cewch brynu bwyd o dryciau bwyd hyfryd Oasis a Ringo's Dirty Diner y tu allan. Bydd gennym far ac mae croeso i chi ddod â’ch diodydd eich hunan hefyd os dymunwch.

Mae gwahoddiad i chi ymuno â ni yn y CCB neu’r parti, neu’r ddau!

Byddai’n braf eich gweld chi yno.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×