agm_banner_-_compressed.png

Cyfarfod cyffredinol blynyddol nofit state 2021

Cwmpeini |

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol NoFit State 2021

Dydd Iau 13 Ionawr 2022, 4.30pm – 6.15pm (ac yna gyfle i wylio LEXICON, 7.30pm - 9.30pm)

 

Bydd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) dipyn bach yn wahanol eleni eto!

Gan fod LEXICON yng Nghaerdydd, roeddem am fanteisio ar y cyfle i gynnal y CCB ar y safle, ac i wahodd pawb i fwynhau’r sioe ar ôl y cyfarfod swyddogol. Bydd y cyfarfod ar gael ar Zoom hefyd ar gyfer pobl sy’n byw yn bell neu sy’n teimlo’n anghyfforddus i ddod i gyfarfod wyneb yn wyneb (ond fydd y sioe ddim ar gael i’w gwylio ar Zoom, sori!).

Cynhelir y CCB bob blwyddyn, ym mis Tachwedd gan amlaf, a dyma pryd rydym yn rhoi gwybod i’n haelodau beth rydym wedi bod yn ei wneud a beth yw ein cynlluniau.

Yn y cyfarfod, caiff ein cyfrifon blynyddol eu cyflwyno a’u cadarnhau, ac mae cyfle i’r aelodau astudio’r dogfennau a gofyn cwestiynau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r staff.

Bydd angen i chi fod yn aelod o’r cwmni i ddod i’r cyfarfod ond peidiwch â phoeni, mae ymuno’n hawdd! Dim ond £5 y flwyddyn yw Aelodaeth o’r Cwmni a gallwch ei dalu ymlaen llaw trwy gysylltu â’r Dderbynfa (02920 221 330)  neu yn y CCB ei hunan.

Gobeithio y gallwch ymuno â ni wrth i aelodau’r gymuned, aelodau’r cwmni a’r ymddiriedolwyr ddod ynghyd i drafod gwaith y cwmni. 

 

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael. Atebwch nawr er mwyn ymuno â ni ddydd Iau 13 Ionawr ar gyfer CCB 2021.

 

 

cofrestru i ddod i’r ccb ar y safle

(Rhowch wybod i ni a fyddwch yn ymuno â ni i wylio LEXICON wedyn hefyd)

 

cofrestru i ddod i’r ccb ar zoom

 

Lawrlwythwch agenda’r CCB yma
Lawrlwythwch gofnodion CCB 2020 yma 
Os hoffech ddarllen ein cyfrifon archwiliedig, maent i’w gweld yma