Neidio i'r prif gynnwys
AGM-Banner-2023.jpg

NoFit State cyfarfod cyffredinol blynyddol a pharti nadolig 2022

Cwmpeini |

Gwahoddiad i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Pharti Nadolig 2023

Nos Wener 15 Rhagfyr 2023, 6.30pm – 12am

NoFit State Community Circus, Four Elms, Four Elms Road, Cardiff CF24 1LE

Eleni, caiff ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ei ddilyn gan barti Nadolig NoFit State, gyda cabaret syrcas gymunedol, bwyd, dj, a bar.

CCB | 6.30pm ymlaen

Cynhelir y CCB bob blwyddyn, a dyma pryd rydym yn rhoi gwybod i’n haelodau beth rydym wedi bod yn ei wneud a beth yw ein cynlluniau.
  
Yn y cyfarfod, caiff ein cyfrifon blynyddol eu cyflwyno a’u cadarnhau, ac mae cyfle i’r aelodau astudio’r dogfennau a gofyn cwestiynau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r staff.
  
Bydd angen i chi fod yn aelod o’r cwmni i bleidleisio yn y CCB ond peidiwch â phoeni, mae ymuno’n hawdd! Dim ond £5 y flwyddyn yw Aelodaeth o’r Cwmni a gallwch ei dalu ymlaen llaw trwy gysylltu â’r Dderbynfa (02920 221 330)  neu yn y CCB ei hunan.
  
Gobeithio y gallwch ymuno â ni wrth i aelodau’r gymuned, aelodau’r cwmni a’r ymddiriedolwyr ddod ynghyd i drafod gwaith y cwmni.
  
Bydd pobl sy’n byw yn bellach neu a fyddai’n teimlo’n fwy cyfforddus mewn cyfarfod rhithwir yn gallu dewis ymuno â’r CCB ar Zoom. Dilynwch y ddolen isod i gadarnhau’ch lle.

Lawrlwythwch agenda’r CCB yma

Lawrlwythwch gofnodion CCB 2022 yma

If you’d like to read our audited accounts you can find them here

Parti Nadolig o 8pm tan 12am

Parti Nadoligo 8pm tan 12amAr ôl y CCB rydyn ni’n cael parti! Bydd perfformiadau cabaret syrcas Nadoligaidd gan aelodau ein cymuned, perfformiad byw a DJs tan yn hwyr.

Bydd bwyd a bar ac mae croeso i chi ddod â’ch diodydd eich hunain hefyd os dymunwch.

Mae gwahoddiad i chi ymuno â ni yn y CCB neu’r parti, neu’r ddau!

Byddai’n braf eich gweld chi yno.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×