support_web_header_.jpg

cefnogwch ni heddiw

Helpwch ni i greu gwaith gwych a newid bywydau trwy gyfrannu at NoFit State heddiw. Cewch wybod yma sut y gallwch chi helpu.

ysbrydoli'r profiadau gorau a newid bywydau

Mae'ch cefnogaeth chi'n creu gwaith syrcas cyfoes dadlennol ac ysbrydoledig ac mae'n rhoi profiadau trawsnewidiol i gynulleidfaoedd a chymunedau gartref a thramor. Rydym yn creu cynyrchiadau newydd radical sy'n amgylcheddol gynaliadwy. Ymdrechwn i fod yn arloeswyr artistig ym mhopeth a wnawn, gan wthio ffiniau'r gelfyddyd hyfryd hon. Gwyddom fod syrcas a pherfformio'n gallu ysbrydoli, chwalu rhwystrau, hybu newid a thaclo’r argyfwng hinsawdd. Mae syrcas yn gelfyddyd gorfforol a gweledol sy'n hygyrch i bob diwylliant, dosbarth a chyd-destun. 

Gyda’ch cefnogaeth chi, rydym yn cyflwyno prosiectau ymgysylltu cymunedol sy'n unigryw ac yn drawsnewidiol, gan gyrraedd y rhai sydd â’r angen mwyaf a buddsoddi mewn cefnogi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid syrcas. 

Rydym yn harneisio grym ein hamrywiaeth – pobl gyffredin yn gwneud pethau rhyfeddol. 
 

Mae'ch cefnogaeth chi'n ein helpu i feithrin cysylltiadau newydd â phob math o fudiadau cymunedol a chydweithwyr creadigol fel y gellir parhau i herio canfyddiad y cyhoedd o beth yw syrcas, ar gyfer pwy y mae, a beth y gall fod. I NoFit State, mae syrcas yn fwy na math o gelfyddyd, mae’n ffordd o fyw. Credwn mai'r ffaith bod aelodau'r cwmni'n cydweithio, yn cyd-fyw, yn cyd-deithio, yn cydfwyta ac yn cydanadlu sy'n rhoi calon ac enaid i'n gwaith. 

Cefnogwch ni HEDDIW i greu gwaith gwych a newid bywydau

Cyfrannwch £

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Elena Schmitz, Pennaeth Datblygu or Chieh-Ju Yang,  Swyddog Datblygu

029 20 221 330

  • gwnewch wahaniaeth

    Dyma'ch cyfle i redeg i ffwrdd gyda'r syrcas! Os byddwch yn gefnogwr rheolaidd, gallwch newid bywydau trwy ein prosiectau cymunedol effeithiol a'n cynyrchiadau syrcas cyfoes syfrdanol.

    Mwy o wybodaeth
  • partneriaethau corfforaethol

    Mae NoFit State wedi llwyddo'n dda i gael nawdd gan fusnesau a datblygu gwasanaethau pwrpasol sy'n dod â'r goreuon ym maes syrcas gyfoes wyneb yn wyneb â byd busnes.

    Mwy o wybodaeth
  • arianwyr cyhoeddus, ymddiriedolaethau a sefydliadau

    Mae’r gefnogaeth hanfodol a gawn gan arianwyr cyhoeddus, ymddiriedolaethau a sefydliadau yn newid bywydau, yn creu cynyrchiadau gyda'r gorau yn y byd ac yn cynnig man cychwyn ar gyfer y genhedlaeth nesaf o artistiaid a chwmnïau.

    Mwy o wybodaeth