Neidio i'r prif gynnwys
2022_04_MJR_sabotage-sat16_0256-web (1).jpg

Rhaid i'r sioe barhau

Apêl gan ein Cyfarwyddwr Artistig

Ddeng mlynedd yn ôl, roedd elw ein teithiau gyda'r Big Top yn gwneud mwy na thalu am y daith, roedden nhw hefyd yn ariannu ein gwaith cymunedol ac yn talu'r biliau. Gwaetha'r modd, daeth y dyddiau hynny i ben.

O ganlyniad i'r storm berffaith, sef cyni, Brexit, yr argyfwng costau byw, costau cynyddol, dim newid yn y cyllid a gawn, ac effaith Covid, dydyn hynny ddim hyd yn oed yn cwrdd â chostau teithiau'r Big Top. Ar hyn o bryd, dydyn ni wir ddim yn gwybod a allwn barhau fel hyn,

Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth reolaidd Cyngor Celfyddydau Cymru, ond dim ond 12% o'n trosiant yw hynny; llawer llai nag a gaiff y rhan fwyaf o sefydliadau celfyddydol eraill tebyg eu maint. Ers blynyddoedd, rydym wedi defnyddio ffioedd teithiau rhyngwladol ac incwm y Swyddfa Docynnau i bontio'r bwlch, ond mae'r hyn a fu'n fwlch wedi troi'n agendor.

Mae'n dda dweud bod ein gwaith cymunedol a'n sioe deithiol awyr-agored BAMBOO yn dal i ffynnu. Cânt eu hariannu ar wahân a does dim bygythiad iddyn nhw. Ond os cawn ein gorfodi i ffarwelio â'r Big Top, yn ogystal â cholli calon ac enaid y cwmni, bydd rhywbeth unigryw ac arbennig iawn yn y sector yn diflannu, efallai am byth. 

Wrth deithio â'r Big Top, gallwn osod ein gwersyll yn unrhyw le – ym Merthyr, Bangor, Hwlffordd neu yn rhai o'r prif wyliau syrcas rhyngwladol ledled Ewrop. Rydym yn falch o gael dod â gwaith sydd gyda'r gorau yn y byd i gymunedau mawr a bach, trefol a gwledig, ledled Cymru a'r tu hwnt.

Dyna pam rydym yn gwneud cais arbennig i Gyngor Celfyddydau Cymru: i'n helpu i barhau i fynd â sioeau syrcas y Big Top i bobl sydd wrth eu bodd â nhw.

Ond mae angen eich cefnogaeth chi arnom.

Sut y Gallwch Chi Helpu

👉 Ysgrifennu llythyr at Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: [email protected] 

(Anfonwch gopi atom i ni yn [email protected] fel y gallwn gadw golwg).

👉 Llofnodi'r ddeiseb

👉 Rhannu ein neges ar y cyfryngau cymdeithasol Facebook | Instagram 

💌 Gall eich llais chi helpu Cyngor Celfyddydau Cymru i ddeall gwerth ein gwaith a'r effaith y byddai colli'r Big Top yn ei chael ar gynulleidfaoedd, y gelfyddyd, y sector, a chi'n bersonol.

Os bydd rhaid i ni ffarwelio'n barhaol â'r Big Top, bydd rhywbeth unigryw'n cael ei golli. Gyda'n gilydd, gadewch i ni atal hynny rhag digwydd.

Ar gyfer ymholiadau'r wasg a'r cyfryngau ac ymholiadau eraill ynghylch hyn, cysylltwch â [email protected]

Cliciwch yma i lawrlwytho'r datganiad llawn. 

Cliciwch yma i weld lluniau o'n teithiau gyda'r Big Top dros y blynyddoedd. 

Rhagor am y cwmni a theithiau'r big top

• Ers 2022, perfformiwyd sioe fawreddog NoFit State, SABOTAGE, yn y Big Top dros 400 o weithiau yng Nghymru, Lloegr, Iwerddon a thir mawr Ewrop i gyfanswm o dros 170,000 o bobl mewn 6 gwlad.

• Ers 2024, mae'r cwmni wedi rhoi 5000 o docynnau am ddim i grwpiau cymunedol ac elusennau ledled y DU, gan helpu pobl na fyddai wedi gallu mynd i'w sioeau fel arall oherwydd eu hamgylchiadau ariannol.

• Ers ei ffurfio yn 1986, mae NoFit State wedi cynrychioli Cymru’n gyson ar y llwyfan byd-eang, ac wedi codi’r Big Top ar draws Ewrop, Asia a Chyfandiroedd America. Yn fwyaf diweddar, yn 2025, yng Ngŵyl Gelfyddydau Ryngwladol flaenllaw Galway, Iwerddon, ac yn y Biennale Internationale des Arts du Cirque ym Marseille, gŵyl syrcas gyfoes fwyaf y byd.

• Mae ein prosiectau Pentref Syrcas yn y Big Top wedi rhoi cyfleoedd i dros 500 o artistiaid syrcas i elwa o hyfforddiant a datblygiad proffesiynol gan rai o ymarferwyr syrcas blaenllaw'r byd, o Brydain a thramor.

• Yn 2025, perfformiwyd sioe awyr-agored y cwmni, BAMBOO, 66 o weithiau i gynulleidfaoedd o dros 30,000 mewn 5 gwlad wahanol, yn cynnwys perfformiadau yng Ngŵyl Glastonbury a Gŵyl Sziget yn Budapest. Doedd y rhan fwyaf o'r perfformiadau ddim yn defnyddio trydan o'r grid, ond system batris solar yn lle hynny.

• Yng nghartref NoFit State yn Adamsdown, Caerdydd y mae canolfan eu Rhaglen Gymunedol boblogaidd sy'n cynnwys dosbarthiadau a hyfforddiant syrcas. Yn 2024, roedd dros 20,000 o bresenoldebau gan bobl leol mewn 565 o weithgareddau a drefnwyd.

• Gŵyl Parc Fest yw dathliad y cwmni o'r celfyddydau, diwylliant a chymuned. Cynhelir yr ŵyl, sydd am ddim, bob blwyddyn yn Adamsdown, Caerdydd. Yn 2025, daeth dros 4500 o bobl leol yno.

• Sefydlwyd NoFit State yn 1986. Mae'n elusen gofrestredig a'i chenhadaeth yw:

1. Hyrwyddo addysg a hyfforddiant i ddefnyddio sgiliau syrcas, theatr gorfforol a pherfformiadau artistig mewn ffyrdd creadigol ac artistig.

2. Hyrwyddo a hyfforddi pobl mewn sgiliau syrcas a gweithgareddau hamdden eraill er mwyn hybu llesiant cymdeithasol er budd y cyhoedd gyda'r nod o wella amodau bywyd.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×