support_web_header_7.jpg

gwnewch wahaniaeth

Dyma'ch cyfle i redeg i ffwrdd gyda'r syrcas! Os byddwch yn gefnogwr rheolaidd, gallwch newid bywydau trwy ein prosiectau cymunedol effeithiol a'n cynyrchiadau syrcas cyfoes syfrdanol.

Caiff NoFit State ei ysbrydoli’n gyson gan allu pobl gyffredin i wneud pethau rhyfeddol. A ninnau'n elusen gofrestredig, rydym yn enwog am ein cynyrchiadau teithiol sy'n cael eu canmol yn rhyngwladol, ein dosbarthiadau syrcas cymunedol, a’n gwaith gyda’r sector syrcas ehangach yn y Deyrnas Unedig a gyda’n cymuned ni. Ble bynnag yr ydym yn gweithio, rydym yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl trwy gyfleoedd cynhwysol, hygyrch a chreadigol.

Rydym yn awyddus i bawb gael y cyfle i ymwneud â chelfyddyd unigryw syrcas gyfoes, ac rydym yn annog pobl i feithrin hunan-fri, i fynegi eu creadigrwydd ac i feithrin perthynas ag eraill yn eu cymuned. Trwy'n cefnogi ni, rydych yn sicrhau y gallwn ddarparu rhaglenni rhagorol sy’n gwneud gwahaniaeth yng nghalon ein cymuned.

Ymunwch â Breuddwydwyr, Rebeliaid a Chynhyrfwyr y byd hwn wrth i ni gydweithio i newid bywydau pobl trwy syrcas a dathlu popeth sy’n amrywiol ac ychydig yn wahanol.

Byddwch yn wahanol, gwnewch wahaniaeth – heddiw! 

breuddwydwyr

breuddwydwyr

Ymunwch â Breuddwydwyr y byd hwn i gefnogi'n gwaith ni yn y gymuned. Trwy roi rhodd fisol, byddwch yn galluogi rhagor o bobl i roi cynnig ar syrcas ac yn helpu i gadw&#

£4.50 y mis

rebeliaid

rebeliaid

Os ydych yn Rebel, rydych yn credu yn ein gwaith, ond yn gallu rhoi ychydig mwy. Mae'ch cyfraniad yn gwneud hyd yn oed yn fwy o wahaniaeth, gan ein helpu i brynu offer syrcas

£10.00 y mis

Cynhyrfwyr

Cynhyrfwyr

Byddwch yn Gynhyrfwr, rhowch fwy o gefnogaeth ac ewch hyd yn oed ymhellach! Bydd eich rhodd fisol yn ariannu’r hyn sy’n cyfateb i ddosbarth meistr gyda pherfformwyr S

£25.00 y mis