highlights 2024.png

Hwyl Fawr 2024: Edrych yn ôl ar Flwyddyn o Dyfu a Newid

A ninnau ar drothwy 2025, dyma'r amser delfrydol i edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu. Roedd 2024 yn flwyddyn o newidiadau, heriau, llwyddiannau, ac eiliadau bythgofiadwy a gafodd ddylanwad arnom. Yn y blog hwn, edrychwn yn ôl ar rai o’r uchafbwyntiau a wnaeth 2024 yn flwyddyn i'w chofio. Dyma gyfle i ddathlu'r gorffennol wrth baratoi at y daith gyffrous sydd o'n blaen!

Ar ddechrau'r flwyddyn roeddem yn cynnig Croeso Cynnes y Gaeaf, gyda gweithdai creadigol, lle i weithio, a chyfle i ddod at ein gilydd i rannu bwyd a sgwrs. Roedd ein gofod cymunedol yn lle braf i feithrin cysylltiadau a sgwrsio â phobl o wahanol gymunedau ein Milltir Sgwâr.

Ym mis Chwefror, cynhaliwyd ein digwyddiad cymunedol cyntaf yn y flwyddyn, Golau Parc Light, ym Mharc y Bragdy. Dros yr ŵyl ddeuddydd, croesawyd 1,600 o bobl! Gŵyl tân a golau oedd hon gyda cherfluniau tân, cerddoriaeth fyw, gosodweithiau golau, perfformiadau syrcas ac adrodd straeon – i ddathlu doniau artistiaid lleol a'r bobl sydd wrth galon ein cymuned fywiog.

Ym mis Mawth, buom yn cydweithio ag Opera Cenedlaethol Cymru i lwyfannu Death in Venice. Olivia Fuchs oedd yn cyfarwyddo ac roedd Mark Le Brocq a Roderick Williams yn cymryd rhan. Roedd y cynhyrchiad newydd arbennig hwn yn cynnwys golygfeydd syrcas wedi'u cyfarwyddo gan Firenza Guidi, a pherfformwyr o rai o gynyrchiadau diweddaraf NoFit State. Cafodd Death in Venice dderbyniad da gan y cynulleidfaoedd a daeth i'r brig yn y dosbarth Opera yn y Sky Awards ym mis Medi!

Yn dilyn rhagflas o'n cynhyrchiad syrcas awyr agored BAMBOO i gynulleidfaoedd gwadd yn St. Paul’s, Bryste ym mis Ebrill, aeth y sioe ar daith i 27 o leoliadau ledled Prydain ac Ewrop. Cafodd ei pherfformio mewn gwyliau a chyrraedd cynulleidfa o 24,000 i gyd!

Ym mis Mai, aethom yn ôl i Fryste gyda’n sioe egnïol a chalonogol SABOTAGE, ar ddechrau taith SABOTAGE 2024. Eleni, aethom â’r sioe i Hwlffordd ac Eastleigh, a daeth taith y DU i ben yn Brighton fel rhan o raglen haf estynedig Gŵyl Brighton. Aethom ymlaen i berfformio SABOTAGE fel rhan o'r Winterfest yn Salzburg a’r Biennale Internationale des Arts du Cirque ym Marseille!

Fel rhan o'n gwaith cymunedol, cawsom ein swyno gan bŵer bambŵ, gan drefnu nifer o weithdai, sesiynau a gweithgareddau yn y gymuned leol. Llwyddwyd i gynnwys y deunydd hyblyg a chynaliadwy hwn yn ein gwaith creadigol, gan gyrraedd uchafbwynt yn ein gŵyl haf, Gŵyl Parc Fest – Bamboo. Roedd yr ŵyl yn dathlu diwylliant a chymuned yr ardal, gan edrych ar y ffordd y gall bambŵ ysbrydoli pawb ohonom i greu, chwarae a dychmygu. Roedd yno gerddoriaeth, perfformiadau syrcas, celf a chrefft, gweithiau celf a gosodweithiau bambŵ, a pherfformiadau gan artistiaid a grwpiau cymunedol o Sblot, Tremorfa ac Adamsdown.

Dim ond blas bychan yw hyn o 2024 yn NoFit State. Os hoffech wybod mwy, cliciwch isod i weld ein Llinell Amser Graffig o Uchafbwyntiau’r Flwyddyn – a gobeithio y gallwch ymuno â ni eto wrth i ni deithio trwy 2025!