Athro Celfyddydau Cynhwysol y Syrcas
Mae NoFit State yn gwmni syrcas gyfoes uchel ei barch. Yng Nghymru y mae ei wreiddiau ond mae ganddo fydolwg rhyngwladol.
Mae rhaglen deithiau flynyddol y cwmni’n cynnwys cynyrchiadau proffesiynol bach a mawr; o berfformiadau awyr-agored a safle-benodol i deithiau Big Top.
Caiff ein Rhaglen Gymunedol ei chyd-greu gyda’n cymunedau lleol iawn ac eithriadol o amrywiol. Mae’r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o brosiectau dysgu creadigol a pherfformio cyhoeddus ac mae cannoedd o bobl leol yn cymryd rhan bob blwyddyn.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â'r -
- gallu i ddysgu sgiliau awyrgampau a sgiliau daear, fel cydbwysedd, llawdrin ac acrobateg, yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad ar gyfer datblygu ac arwain gwaith perfformio creadigol.
- profiad o ddysgu a chreu mewn meysydd eraill yn y celfyddydau perfformio, fel dawns a theatr gorfforol. Bydd hyn yn fantais ychwanegol.
Rydym yn chwilio am athrawon sy'n -
- fodlon bod yn greadigol ac yn hyblyg yn eu dull o addysgu ac yn agored i ganfod ffyrdd newydd o gydweithio â chyfranogwyr i chwalu rhwystrau sy'n atal pobl rhag cymryd rhan mewn syrcas.
- gallu gweithio fel tîm, ac yn annibynnol hefyd, ac yn gallu mynd ati i reoli gwaith.
- ymrwymo i sicrhau gwelliant parhaus mewn arferion proffesiynol a dulliau dysgu.
Mae gennym gynlluniau cyffrous ar y gweill – ni fu erioed gwell amser i ymuno â ni a bod yn rhan o hynny.
Oriau Gwaith: Rhan amser, 16 awr yr wythnos
Contract: Cyfnod penodol o flwyddyn, gyda’r posibilrwydd o’i ymestyn
Cyflog: £12,613.68, PAYE
Lleolaiad: Caerdydd
Darllenwch y Disgrifiad o'r Swydd sy'n atodedig i ganfod manylion pellach am y rôl. Gofynnir i chi lenwi’r ffurflen gais a’r ffurflen fonitro cyfle cyfartal. Anfonwch eich ceisiadau at [email protected]
Os teimlwch y gallech wneud y swydd hon ond nad ydych yn ticio pob bocs ym manyleb y person, neu os credwch y byddai arnoch angen tipyn o hyfforddiant neu gefnogaeth ychwanegol er mwyn llwyddo’n llwyr, byddem yn dal wrth ein bodd yn clywed wrthych.
Dyddiadau allweddol
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12 ganol dydd, dydd Llun 24 Tachwedd 2025
Cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau ar ddydd Llun 1 a 8 Rhagfyr
Syniad o’r dyddiad dechrau: Cyn gynted ag y bo modd, i’w benderfynu rhyngom.