Untitled design.jpg

BAMBOO

Cynhyrchiad syrcas trawiadol, sgilgar sy’n defnyddio dim ond bambŵ a chyrff pobl

BAMBOO

Mae'r ffrindiau’n sgubo trwy'r dorf i lwyfan gwag, gan chwifio ffyn bambŵ amrywiol a hardd ac yna'n eu defnyddio i adeiladu cartrefi a thyrau i’w dringo, brwydro drostynt, llamu oddi arnynt a throelli o’u cwmpas. Maent yn darganfod bwndeli ac yn eu hagor gan godi cerfluniau tal, 6 metr o uchder sy'n newid ac yn esblygu i fod yn dirwedd symudol lle maent yn ceisio byw bywyd i’r eithaf. 

Mae BAMBOO yn sioe unigryw a bydd pawb sy'n ei gweld yn edrych ar leoedd mewn ffordd wahanol. Bydd yr atgof o goedwig fambŵ y syrcas a basiodd drwodd fel corwynt yn golygu na fyddwch chi fyth yn meddwl am stryd na llecyn cyhoeddus yn yr un ffordd eto.

Mae BAMBOO ar gael i fynd ar daith yn 2026 a'r tu hwnt. Os hoffech ragor o wybodaeth, ebostiwch ein Cynhyrchydd Creadigol, Dann. 

Sioeau Gorffennol

2025

Sioeau Gorffennol

2024

BAMBOO Trailer 2026

CREDITS

Mish Weaver - Cyfarwyddwr
Tom Rack ac Orit Azaz - Cyd-Gyfarwyddwyr Artistig
Tarn Aitken - Pheiriannydd Syrcas
Dann Carroll – Cynhyrchydd
Rhi Matthews – Dylunydd Gwisgoedd
Hannah Hunter - Rheolwr Llwyfan Rihyrsal
David Insua-Cao  – Cerddoriaeth a Chyfansoddi

Cwmni perfformio
Fabricio Fernández Rodino
Felix Fogg
Jake Madhatter
Lawrence Swaddle
Lily Moss
Loana La Rosa Corbalan
Sarah Jeneway

Former Company, and thanks to:
Tarn Aitken, Guillem Fluixà i Martí, Rosa Schmid, Nicoló Marzoli, Laura Moy, David Insua-Cao. 

y cast a'r criw

Mae NoFit State o’r farn bod y canlyniad yn fwy na chasgliad o elfennau unigol. Dewch i gwrdd â’r cast, y criw a’r tîm artistig a ddaeth ynghyd i wneud yr anhygoel yn bosibl.

Gweld y tîm

ffotograffau gan mark robson a luke witcomb

    Bamboo 1 (Luke Witcomb).jpg Bamboo 2 (Mark Robson).jpg Bamboo 3 (Luke Witcomb).jpg Bamboo 4 (Luke Witcomb).jpg Bamboo 5 (Mark Robson).jpg Bamboo 6 (Mark Robson).jpg