sabotage
Mae SABOTAGE yn sioe syrcas fawr ysblennydd sydd â sgiliau syfrdanol, delweddau trawiadol a naws arbennig NoFit State, wedi'i chyfarwyddo gan Firenza Guidi. Caiff cynulleidfaoedd fwynhau grym cerddoriaeth fyw gyda band anhygoel yn rhan ganolog o'r sioe.
Mae SABOTAGE yn herio'r statws quo. Dyma sioe syrcas gyfoes sy’n eich bywiogi, yn codi’ch calon ac sy’n gymdeithasol-berthnasol. Dyma'r man rydym yn ei gyrraedd ar ein teithiau personol. Mae ein brwydrau a’n breintiau wedi llywio ein taith. Ond down ynghyd mewn lle cyffredin ym mhabell y syrcas, yn siarad iaith gyffredin y syrcas. Mae SABOTAGE yn ystyried beth sy'n ein gwahanu a sut yr ydym yn perthyn. Mae saboteurs yn sefyll allan. Maen nhw’n gwrthsefyll. Maen nhw’n herio’r sefydliad. Maen nhw’n cael eu clywed.
Does dim byd yn SABOTAGE i’w wneud yn anaddas i blant ond nid yw wedi’i wneud yn benodol i blant.
“Awe-inspiring”
Buzz Magazine
“An immersive experience that is at times gloriously bewildering”
Daily Echo
"You have little hope of joining NoFit State Circus unless you are an Olympic Gold medallist gymnast and trained at Ballet Rambert in your spare time!"
Western Telegraph
"It’s a testament to the brilliance of NoFit State that they can create a show that feels so alive, so vibrant, and so utterly unforgettable"
Scene