sabotage
Peidiwch â cholli sioe ysblennydd SABOTAGE.
Dyma berfformiad afieithus, carlamus a digywilydd o danbaid. Byddwch yn geg-agored o weld sgiliau a styntiau'r perfformwyr sy'n defnyddio pob modfedd o'r Big Top i gyflwyno campau anhygoel.
Mae'n sioe syrcas fawreddog, gyffrous, unwaith mewn oes, sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd. Mae'n cynnwys perfformwyr hynod dalentog, sgiliau ac awyrgampau syfrdanol, adloniant anhygoel, cerddoriaeth fyw a delweddau trawiadol. Chyfarwyddo gan Firenza Guidi.
Mae SABOTAGE yn gwneud i chi deimlo'n rhan o rywbeth; mae'n fwy na dim ond triciau a sbloet (er bod digon o hynny!), ond mae hefyd yn hyfryd cael rhannu llawenydd sioe fyw ag eraill. Mae'n rhoi rhyddid i chi i ddianc rhag y cyffredin, ac ymgolli dros eich pen a'ch clustiau ym mhrofiad unigryw'r stori, gyda cherddoriaeth fyw a delweddau hardd y syrcas yn cyfuno i greu atgof sy'n para o'r hyn sy'n bosibl.
Does dim byd yn SABOTAGE i’w wneud yn anaddas i blant ond nid yw wedi’i wneud yn benodol i blant.
“Awe-inspiring”
Buzz Magazine
“An immersive experience that is at times gloriously bewildering”
Daily Echo
"You have little hope of joining NoFit State Circus unless you are an Olympic Gold medallist gymnast and trained at Ballet Rambert in your spare time!"
Western Telegraph
"It’s a testament to the brilliance of NoFit State that they can create a show that feels so alive, so vibrant, and so utterly unforgettable"
Scene
Disgownt arbennig ar gyfer trigolion Cernyw yn unig
Defnyddiwch y cod Kernow20 a'ch cod post wrth dalu i gael 20% oddi ar bris tocyn.
Os ydych yn byw yn Redruth neu Camborne a bod eich cod post yn dechrau â TR15 neu TR16, mae gennym gynnig arbennig iawn ar bris tocynnau i drigolion lleol - dim ond £10 yr un. Defnyddiwch y cod Redruth10 a'ch cod post wrth dalu i weld pris eich holl docynnau wedi'i ostwng i £10.