sabotage
Peidiwch â cholli sioe ysblennydd SABOTAGE.
Dyma berfformiad afieithus, carlamus a digywilydd o danbaid. Byddwch yn geg-agored o weld sgiliau a styntiau'r perfformwyr sy'n defnyddio pob modfedd o'r Big Top i gyflwyno campau anhygoel.
Mae'n sioe syrcas fawreddog, gyffrous, unwaith mewn oes, sydd wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd. Mae'n cynnwys perfformwyr hynod dalentog, sgiliau ac awyrgampau syfrdanol, adloniant anhygoel, cerddoriaeth fyw a delweddau trawiadol. Chyfarwyddo gan Firenza Guidi.
Mae SABOTAGE yn gwneud i chi deimlo'n rhan o rywbeth; mae'n fwy na dim ond triciau a sbloet (er bod digon o hynny!), ond mae hefyd yn hyfryd cael rhannu llawenydd sioe fyw ag eraill. Mae'n rhoi rhyddid i chi i ddianc rhag y cyffredin, ac ymgolli dros eich pen a'ch clustiau ym mhrofiad unigryw'r stori, gyda cherddoriaeth fyw a delweddau hardd y syrcas yn cyfuno i greu atgof sy'n para o'r hyn sy'n bosibl.
Does dim byd yn SABOTAGE i’w wneud yn anaddas i blant ond nid yw wedi’i wneud yn benodol i blant.
“Awe-inspiring”
Buzz Magazine
“An immersive experience that is at times gloriously bewildering”
Daily Echo
"You have little hope of joining NoFit State Circus unless you are an Olympic Gold medallist gymnast and trained at Ballet Rambert in your spare time!"
Western Telegraph
"It’s a testament to the brilliance of NoFit State that they can create a show that feels so alive, so vibrant, and so utterly unforgettable"
Scene
NoFit State Big Top Tent | Cardiff
cynnig i deuluoedd
Pris arbennig o £65 i deulu o 4.
*Bydd angen i chi gael o leiaf 1 oedolyn ac 1 plentyn (o dan 16) yn eich grŵp.
Prisiau
£26 - £29 Full Price
£16 - £19 Concession
£65 - £76 Family of 4 *
*Bydd angen i chi gael o leiaf 1 oedolyn ac 1 plentyn (o dan 16) yn eich grŵp.
Fel rhan o’n polisi amgylcheddol, nid ydym yn rhoi tocynnau papur. Y neges ebost o gadarnhad yw'r prawf eich bod wedi prynu tocynnau!
bargen gynnar
Prynu NAWR a byddwch yn cael 20% oddi ar docynnau SABOTAGE wedi'u codio EARLYBIRD wrth dalu. Mae'r cynnig yn cau ar 9 Gorffennaf.
Dyma'ch cyfle olaf i weld SABOTAGE – bydd gennym sioe Big Top newydd yn 2026.
swyddfa docynnau
Rhif y Swyddfa Docynnau: 02921 321 021
Oriau'r Swyddfa Docynnau: 10am - 4pm most days
Os na allwn ateb, gadewch neges ac fe ffoniwn ni chi nôl.
hygyrchedd
Nid ydym yn cynnal Perfformiad Hamddenol penodol yma, ond mae awyrgylch hamddenol yn ein Big Top ac ar y safle ac mae croeso i bawb. Os hoffech wybod beth y gallwch ei ddisgwyl cyn eich ymweliad, cymerwch olwg ar ein Pecyn Croeso Digidol, neu gallwch gysylltu â ni os hoffech ragor o fanylion!
cyfarwyddiadau
Bydd pabell Big Top NoFit State sydd fel llong ofod arian ar:
Big Top Tent, Sophia Gardens (south), Cardiff, CF11 9HW
Cliciwch yma i gael cyfarwyddiadau gan ddefnyddio Google Maps.
parcio
More information coming soon.
trafnidiaeth gyhoeddus
Rydym yn annog ein cynulleidfaoedd i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os oes modd. Mae hwn yn lle canolog sydd â chysylltiadau trafnidiaeth da.
Ar Feic: Gallwch gloi eich beic ar safle NoFit State.
By Bus: Cardiff Bus services run regularly between Cardiff Central Station and Cathedral Road (adjacent to Sophia Gardens Cardiff)
Routes going via Cathedral Road include:
- Number 25 Circular Service to Llandaff North and North Road
- Number 62 Service to Llandaff, Danescourt, Pentrebane, Fair Water & Canton.
- Number 63 service Ffordd Berllan, Central Station, Radyr to Llandaff.
If you are planning to travel by bus please use https://www.cardiffbus.com for more information.
By Train: Cardiff Central Train Station is a 20 minute walk away from NoFit State site.
cwestiynau cyffredin
Mae The Wing Scuffle Spectacular yn para tuag 2awr (yn cynnwys egwyl o 20 munud). Gall redeg ychydig yn hwyrach weithiau, felly dylech ystyried hynny wrth wneud trefniadau teithio.
Rydym yn cynnig tocynnau am brisiau gostyngol i:
- Pobl dros 65 oed
- Rhai o dan 16 oed
- Pobl heb gyflog
- Myfyrwyr
Gall fod angen i chi brofi’ch bod yn gymwys wrth gyrraedd.
Ydym. Os oes gennych gr?p o 10 o bobl fe gewch docyn i 1 ohonynt am ddim. Rhowch 10 tocyn yn eich basged ac fe roddir y gostyngiad yn awtomatig.
Yn achos grwpiau ysgolion ac ati, cysylltwch â ni i drafod unrhyw ostyngiadau sydd ar gael.
Gallwch gysylltu â’n swyddfa docynnau ar: 02921 321 021
Mae ystafell docynnau NoFit State ar y safle yn agor awr cyn dechrau’r sioe. Does dim angen i chi gasglu tocynnau papur.
Gallwch brynu tocynnau ar y dydd os oes rhai ar ôl.
Does dim rhifau ar y seddau, ac mae golygfa wych o bob sedd!
Fel rhan o’n polisi amgylcheddol, nid ydym yn rhoi tocynnau papur. Cewch stamp ar eich llaw a fydd yn caniatáu i chi fynd i mewn i'r babell.
Rhowch yr enw a roesoch wrth brynu'r tocynnau a nifer y tocynnau pan gyrhaeddwch.
Rydym yn gweithio i wneud ein perfformiadau mor hygyrch ag y bo modd. Os oes gennych chi neu un o’ch gr?p anghenion hygyrchedd ychwanegol, cysylltwch i holi am fanylion ac i weld sut y gallwn wneud eich ymweliad mor braf ag y bo modd.
Dylai pobl sydd â phroblemau symud roi gwybod i’r swyddfa docynnau fel y gallwn gadw seddau hwylus i chi. Mae’r babell fawr yn hollol hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn ac mae toiled hygyrch ar y safle.
Dylai pobl sydd â nam ar eu golwg roi gwybod i’r swyddfa docynnau fel y gallwn gadw seddau ger y tu blaen iddynt. Dylent roi gwybod i ni hefyd os ydynt yn dod â chi tywys gyda nhw.
Mae gennym ychydig o lefydd i bobl anabl barcio ger y safle. Cysylltwch â ni ymlaen llaw os bydd arnoch angen un o’r rhain fel y gwyddom i’ch disgwyl.
Mae seddau i ofalwyr am ddim, ffoniwch dîm y swyddfa docynnau i drefnu’r rhain: 02921 321 021
Funded by



Co produced with

