Neidio i'r prif gynnwys
STAR Hub Cliton Street.jpg

Gwerthuso ac Adolygu Syrcas i'r Teulu yn Hyb STAR

Ebrill - Awst 2025

Presenoldeb:- 44 o oedolion, 119 o blant, 5 yn eu harddegau

🌟 Effaith Gymdeithasol

•    Cyfle i Deuluoedd Fondio a Rhannu Profiadau 
Yn aml, roedd rhieni a phlant yn gweithio gyda'i gilydd – gan ddysgu hŵla hŵpio, jyglo, sgipio ac annog ei gilydd ymlaen. Yn ôl y teuluoedd, roedd “yn hwyl”, “yn gyffrous”, ac yn ffordd o fwynhau cwmni ei gilydd. Roedd rhieni'n gwerthfawrogi gweld eu plant yn cymryd diddordeb, yn egnïol ac yn hapus.
•    Meithrin Cymuned a Pharhad 
Roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran eisoes wedi cael profiad o'r syrcas, yn yr ysgol, mewn canolfan gymuned, neu mewn sesiynau yn y parc. Roedd teuluoedd wedi gweld yr hyfforddwyr o'r blaen, yn cofio profiadau blaenorol, ac yn edrych ymlaen at ragor o ymweliadau. (“Rydyn ni'n dod ers blynyddoedd, ers iddyn nhw ddechrau cerdded”.) Roedd y sesiynau'n ffordd o feithrin ymddiriedaeth, adnabyddiaeth, a chysylltiadau cymunedol cryfach.
•    Cynhwysiant a Hygyrchedd 
Croesawyd teuluoedd o gefndiroedd amrywiol i'r sesiynau – yn cynnwys rhai Arabeg, Cymraeg a Tsieinëeg eu hiaith. Clywsom dro ar ôl tro fod y rhieni'n gwerthfawrogi'r sesiynau syrcas di-dâl, lleol gan eu bod o dan bwysau ariannol a bod gweithgareddau eraill yn gallu bod yn gostus.
•    Ymgysylltu ag Oedolion a Llesiant Oedolion 
Yn ogystal â chefnogi'r plant, roedd oedolion yn ymuno yn y gweithgareddau, weithiau fwy nag erioed o'r blaen. Dywedodd rhieni eu bod yn mwynhau dysgu sgiliau newydd eu hunain, fel hŵla hŵpio, a'i bod yn braf bod yn rhan o'r gweithgareddau yn hytrach na dim ond gwylio.

💡 Newid er Gwell

•    Hyder a Chyflawni 
Roedd plant yn ymfalchïo eu bod yn meistroli sgiliau newydd fel troelli platiau, diabolo, a reidio beic un olwyn. Sylwodd rhieni a hyfforddwyr ar gynnydd amlwg o sesiwn i sesiwn, gyda phlant yn dweud pethau fel “Dw i’n gwella bob tro.”
•    Hwyl, Chwarae a Gollwng Stêm 
Roedd y sesiynau'n cynnig lle diogel i blant redeg, chwerthin a chwarae. Soniodd rhieni bod hyn yn werthfawr iawn, yn enwedig i blant oedd yn arfer bod “yn sownd yn y tŷ” neu’n llawn egni, ac meddai un “Dyma’r union beth roedd arno'i angen heddiw”.
•    Datblygu Sgiliau a Chreadigrwydd
Roedd rhyddid i'r plant drin a thrafod offer ac arwain gemau roedden nhw'u hunain wedi'u cyd-greu. Buon nhw'n dyfeisio amrywiadau ar driciau ac yn cyfnewid sgiliau, gan ddatblygu gwaith tîm, creadigrwydd a gwydnwch trwy ymarfer.
•    Ymdeimlad o Berthyn a Dyhead 
Bu rhai plant yn holi am ymuno â dosbarthiadau syrcas wythnosol ac yn dweud eu bod yn breuddwydio am ddysgu sgiliau trapîs neu jyglo. Dywedodd rhieni fod y syrcas yn rhoi rhywbeth i'w plant edrych ymlaen ato, ac yn ôl un, "Mae'n ffordd wych o dreulio'r prynhawn – ac mae am ddim.”

✨ Yn gyffredinol

Roedd sesiynau Syrcas i'r Teulu Hyb STAR yn cynnig gofod cymunedol diogel, cynhwysol a llawen lle roedd plant a'u rhieni'n dysgu gyda'i gilydd, yn magu hyder ac yn gwneud cysylltiadau cymdeithasol fydd yn para'n hir. Roedd y sesiynau'n hybu llesiant, yn lleihau rhwystrau ariannol i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol ac yn ysbrydoli plant ac oedolion i edrych arnyn nhw eu hunain fel pobl abl a chreadigol, ac fel rhan o'r gymuned ehangach.

Cafwyd heriau ag ymddygiad rhai o'r plant yn y sesiynau ond, gyda chefnogaeth yr Hyfforddwyr a'r Rhieni/Gofalwyr, roedd modd i'r plant hynny gymryd rhan a dysgu sgiliau newydd. 

"Mae'n wych bod NoFit State yn defnyddio'n cyfleusterau ni achos maen nhw'n creu amgylchedd arbennig i bawb, a hynny heb rwystrau ariannol. Mae'r rhaglen yn wych i deuluoedd – mae gan rai teuluoedd yn yr ardal 3-4 o blant ac mae'n anodd iddyn nhw wneud pethau gyda'u plant. Mae NoFit State yn cynnig gofod creadigol a rhyddid llwyr i'r teuluoedd roi cynnig ar bethau newydd. Yn Sblot, rydym yn gweld bod llawer o'r plant yn osgoi trefn ac yn ofni methu ond mae NoFit State yn pontio'r bwlch hwnnw trwy annog y plant i ddal ati a phwysleisio bod methu'n naturiol ac yn rhan o'r broses o adeiladu cymeriad, a meddwl yn gadarnhaol." Dean, Rheolwr Hyb STAR 

Crëwyd gan ddefnyddio data o Ffurflen Fonitro NFS a Chat GPT 

Dyfyniadau

"Rydw i bob amser yn chwilio am bethau i'w gwneud dros y gwyliau ac yn gŵglo NoFit State Community. Dw i'n chwilio am bethau am ddim gan fod arian yn brin. Dw i'n hoffi NoFit State Circus." 

"Rydyn ni'n dod ers blynyddoedd, ers i'r plant ddechrau cerdded. Rydyn ni wedi bod yng Ngerddi'r Rheilffordd ac yma. Byddai fy mab yn hoffi rhoi cynnig ar y trapîs (mae'n 9 oed) ond mae'n chwarae rygbi ar foreau Sul. Rydyn ni'n aros i bopeth ffitio fel y gall ddod i'r dosbarthiadau syrcas."

"Wnes i fwynhau'r sesiwn yn fawr achos roedd llawer i'w ddysgu ac roedd yn hwyl. Hŵla hŵpio oedd fy hoff beth."

"Rwy'n falch ei fod yn lleol – ffordd wych o dreulio'r prynhawn ac mae am ddim."

"Dyma’r union beth roedd arno'i angen heddiw. Mae wedi bod yn sownd yn y tŷ drwy'r dydd felly mae gwir angen cyfle arno i losgi'r egni. (Fe wnaethon ni chwarae llawer o gemau rhedeg o gwmpas gydag e.)"

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×