Neidio i'r prif gynnwys
care home 5.jpg

Astudiaeth Achos o Bartner

Pwy: Pobl hŷn â Dementia a Chlefyd Alzheimer sy'n byw mewn cartref gofal
Ble: Glain House, Adamsdown, Caerdydd

Cefndir

Cysylltodd Marissa, Cydlynydd Gweithgareddau Glain House, ag NFS ac fe gytunwyd y bydden ni'n cynnal sesiynau wythnosol 'syrcas ar eich eistedd' gyda'u preswylwyr fel rhan o'n rhaglen syrcas sydd heb dâl am gymryd rhan.

Sesiynau'r Syrcas

Am dros 6 mis, bu NFS yn cynnal sesiynau wythnosol, awr o hyd, yn y cartref gofal. Roedd tîm o dri o'n Hyfforddwyr Celfyddydau Syrcas Cynhwysol (ICATs) yn gweithio gyda hyd at 30 o breswylwyr ym mhob sesiwn gan addasu offer syrcas fel plu paun, sgarffiau jyglo, peli, cylchoedd a phlatiau, i ddarparu gweithgareddau llawdrin synhwyraidd. Buont yn canu caneuon hefyd ac yn treulio amser yn sgwrsio â phob preswylydd, gan ddod i wybod eu henwau a gwrando ar eu straeon.

Adborth gan y Cydlynydd Gweithgareddau

Mae’r preswylwyr yn bywiogi bob wythnos pan rydych chi’n dod i mewn. Maen nhw’n gwenu ac yn chwerthin a hyd yn oed yn giglo.”

Dywedodd Marissa fod pobl nad oedd yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd arall yn y cartref yn ymuno yn y sesiynau Syrcas. Yn ystod y sesiynau doedd y preswylwyr ddim yn cecru nac yn ffraeo gan eu bod nhw’n cael cymaint o hwyl!

Roedd hi'n rhyfeddu at yr hyn y gallai’r preswylwyr ei wneud. – gyda rhai hyd yn oed yn llwyddo i droelli dau blât ar yr un pryd. Dywedodd fod y rhai a allai yn edrych ymlaen at y sesiynau bob wythnos. 

Mae un o'r hyfforddwyr ICAT yn siarad Cymraeg, sef iaith gyntaf un o'r preswylwyr newydd. Felly treuliodd hi amser yn siarad â'r preswylydd ac fe wnaeth honno ymlacio a chael mwynhad mawr o siarad â'r hyfforddwr yn ei hiaith ei hun!

Roedd staff gofal y cartref yn mwynhau ymuno yn sesiynau'r syrcas hefyd a gwelsant fod y sesiynau'n gwneud lles i'r preswylwyr, yn emosiynol ac yn gorfforol.
Sylwodd Marissa'n neilltuol ar y berthynas bersonol a ddatblygodd rhwng yr ICATs a'r preswylwyr. Roeddent yn eu cyfarch bob wythnos wrth eu henw ac yn ffarwelio'n bersonol ar ddiwedd y sesiynau. Roedd y gofal a'r sylw hwn i'r preswylwyr fel unigolion yn arbennig o bwysig i staff a phreswylwyr y cartref gofal.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×