Astudiaeth Achos o Croeso Cymunedol 2024/25
Pwy: Cymuned Sblot, Adamsdown, Tremorfa, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a phobl sy'n byw mewn tai â chymorth.
Ble: NoFit State, Adamsdown, Caerdydd
Y Cefndir
Dyma'r drydedd flwyddyn i NFS gynnal Croeso Cymunedol dros fisoedd oer yr Hydref/Gaeaf. Mae croeso cynnes yno i bobl fwynhau cwmni, cefnogaeth, bwyd cynnes, celf a chrefft, a sesiynau syrcas. Gan fod ein hardal ni yn Nwyrain Caerdydd yn Ardal Gynnyrch Ehangach o ran anfantais economaidd a chymdeithasol, mae'r argyfwng costau byw presennol yn golygu bod mawr angen lle â chroeso cynnes cymunedol fel hyn.
Y Sesiynau
25 sesiwn o fis Medi 2024-Mawrth 2025, x 2 sesiwn y dydd, bob dydd Mawrth
Yn bresennol:- Oedolion: 383 Plant: 511 Arddegwyr: 10
Bob wythnos darparwyd cinio cynnes am ddim, te, coffi a lluniaeth, deunyddiau darllen, celf a chrefft, gweithdai syrcas i deuluoedd, ac roedd trefnwyr y Croeso Cymunedol yn cynnig cefnogaeth ac yn cyfeirio pobl at wasanaethau perthnasol.
Yn ystod mis Rhagfyr, lansiwyd partneriaeth newydd gyffrous gyda'r gweithwyr chwarae lleol. Maen nhw'n gweithio'r tu allan mewn parciau lleol trwy'r gaeaf a, thrwy bartneriaeth gymunedol y Filltir Sgwâr, fe wnaethon ni wahodd y gweithwyr chwarae draw i'r Croeso Cymunedol ar ôl ysgol. Fe wnaethon nhw gytuno a dod â chriw o bobl ifanc gyda nhw. Roedd y rhain ar amserlenni rhan amser ac yn cael anhawster â phresenoldeb mewn ysgolion prif ffrwd. Roedd rhai o’r teuluoedd hyn yn dod o'r gymuned leol o Sipsiwn a Theithwyr ac roeddent wir yn gwerthfawrogi eu hamser yn y Croeso Cymunedol a’r gefnogaeth a gynigiwyd i’w plant. Bu Seren yn y Gymuned yn cefnogi'r bobl ifanc i gynllunio a chynnal gweithgareddau celf a chrefft yn yr wythnosau cyn y Nadolig ac roedd teuluoedd eraill wrth eu bodd yn ymuno â nhw.
Ar ôl y Nadolig, cawsom arian ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gynnal sesiynau ‘Celf gydag Angharad’ yn y Croeso Cymunedol. Cynhaliodd Angharad 10 wythnos o sesiynau celf creadigol i blant a’u rhieni, gan gyflwyno’r iaith Gymraeg iddynt. Cefnogwyd y sesiynau hyn hefyd gan Seren yn y Gymuned a oedd yn dal i ddod â phlant newydd o'r gymuned gyda nhw.
Crynodeb o'r ymateb i'r sesiynau
Beth Weithiodd yn Dda:
Mwynhaodd y plant y gweithgareddau amrywiol, yn cynnwys mannau chwarae meddal, cyrsiau rhwystrau, a gêmau fel delwau cerddorol. Er enghraifft, bu plant bach yn adeiladu tyrau diablo ac yn eu dymchwel, a chafodd eraill hwyl ar weithgareddau fel y siglen raff a sidanau awyr.
Roedd rhieni a phlant yn hoffi'r cydbwysedd rhwng chwarae wedi'i drefnu a chwarae rhydd. Er enghraifft, roeddent yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd i fynd o'r naill weithgaredd i'r llall, ac roedd digon i'w wneud yma a thraw i gadw'r plant yn brysur.
Cynhwysiant a Chefnogaeth:
Disgrifiwyd y Croeso Cymunedol fel lle “croesawus a chefnogol i deuluoedd o gefndiroedd amrywiol”. Dywedodd un rhiant bod eu plentyn niwrowahanol yn teimlo’n ddiogel ac yn cael ei gydnabod, ac roedd hynny'n bwysig iawn i’r teulu.
Roedd y sesiynau'n addas i wahanol grwpiau oedran, gyda phlant o wahanol gefndiroedd yn rhyngweithio'n dda â'i gilydd. Yn ôl un rhiant roedd ei phlentyn swil wedi dod yn fwy agored ac wedi partneru â rhywun heblaw hi.
Manteision Cymdeithasol ac Emosiynol:
Roedd rhieni'n gwerthfawrogi'r awyrgylch hamddenol, oedd yn helpu'r plant i ryngweithio a meithrin sgiliau cymdeithasol. Soniwyd bod plant yn magu hyder a bod eu hymwybyddiaeth o le (spatial awareness) yn gwella.
Dywedodd sawl rhiant fod eu plant yn gallu integreiddio’n well yn gymdeithasol, a nodwyd hynny'n arbennig gan un oedd yn dod yn rheolaidd.
Ymdeimlad o Gymuned:
Pwysleisiwyd bod yno ymdeimlad cryf o gymuned, ac roedd rhieni'n dweud eu bod yn teimlo bod croeso iddynt yno a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Ym marn un rhiant, roedd y sesiynau gymaint ar gyfer yr oedolion ag ar gyfer y plant, a bu rhai'n trafod iechyd meddwl a materion personol gyda'r trefnwyr a rhieni eraill.
Ymateb Cadarnhaol gan Rieni:
Soniodd llawer o rieni fod eu plant wedi mwynhau’r sesiynau'n fawr, gyda rhai'n sôn am natur hwyliog a difyr y gweithgareddau. Dywedodd un rhiant nad oedd eu plentyn yn ymateb yn yr ysgol gan amlaf ond ei fod yn gwneud hynny yn y sesiwn.
Profiadau Amrywiol:
Soniwyd yn gyson am y profiadau amrywiol oedd ar gael, fel celf a chrefft, gweithgareddau syrcas, a gêmau. Roedd un rhiant yn gwerthfawrogi’r cyfle i fod yn greadigol ei hun, a dywedodd un arall bod ei phlentyn yn mwynhau gweithgareddau newydd fel hŵla-hŵpio a chwarae syrcas.