Ebrill 2025 – Awst 2025
Presenoldeb:- 111 o oedolion, 12 yn eu harddegau, 364 o blant
🌟 Effaith Gymdeithasol
•    Cysylltiad Cymunedol: Roedd teuluoedd a phlant yn cofio tîm y syrcas ar ôl ymweliadau ag ysgolion, canolfannau cymuned, neu ddigwyddiadau eraill. Gofynnodd sawl un "Ydych chi'n fy nghofio i?" neu ofyn iddynt ddod i'w hysgol eto, gan ddangos ymdeimlad o ymddiriedaeth a pharhad.
•    Cynhwysiant a Hygyrchedd: Roedd y sesiynau di-dâl yn ffordd dda o chwalu rhwystrau i deuluoedd sy'n ceisio lloches, teuluoedd ar incwm isel, a rhai ag anghenion ychwanegol. Roedd y rhieni'n diolch bod y plant yn cael ymuno heb gost a bod modd addasu'r gweithgareddau (e.e. gwneud triciau ar eu heistedd).
•    Amrywiaeth Ddiwylliannol: Roedd nifer o ieithoedd i'w clywed (Cymraeg, Wrdw, Arabeg, Sbaeneg, Balochi, Hindi, Punjabi). Roedd y plant yn newid ieithoedd wrth siarad â'r hyfforddwyr ac roedden nhw'n helpu i gyfieithu, gan arwain at gyfnewid rhyngddiwylliannol a chryfhau cysylltiadau cymunedol.
•    Pobl o Bob Oed Ynghyd: Roedd rhieni, gofalwyr a hyd yn oed neiniau a theidiau'n ymuno yn yr hwyl – gan ddysgu hŵla hŵpio, jyglo, ac annog y plant. Dywedodd oedolion fod y sesiynau'n "achubiaeth" a bod "fy mhlant yn disgwyl amdanoch yn y parc bob dydd Sul". Roedden nhw'n dweud y byddai eu plant yn llai gwyllt ac yn hapusach wedyn.
💡 Newid er Gwell
•    Datblygu Sgiliau a Hyder: Roedd y plant yn falch o gael dangos triciau roedden nhw wedi'u dysgu o'r blaen, roedden nhw'n gofyn am gael eu herio â sgiliau anoddach, ac yn dyfalbarhau tan iddynt eu meistroli.
•    Iechyd a Llesiant: Roedd y plant yn dweud bod y gweithgareddau'n hwyl, yn ymarfer corff da ac yn llosgi egni. Yn ôl y rhieni roedd chwarae yn yr awyr agored yn gwneud y plant yn "llai manic" ac yn gwella'u hwyliau. Roedd y sesiynau'n annog y plant i chwarae'n egnïol ac i weithio fel tîm (e.e. "mae'r llawr yn lafa," ac i dacluso gyda'i gilydd).
•    Ymdeimlad o Berthyn a Llawenydd: Roedd y plant yn llawn cyffro (“Mae’r syrcas wedi cyrraedd!”), ac roedden nhw'n gofyn dro ar ôl tro pryd fyddai’r hyfforddwyr yn dod yn ôl. Roedden nhw'n dweud ei fod yn deimlad arbennig bod y syrcas wedi dod i’w parc lleol nhw. Llwyddodd y sesiynau i droi mannau cyhoeddus cyffredin yn hybiau cymunedol bywiog i'w rhannu.
•    Y Ffordd Ymlaen a Dyheadau: Bu teuluoedd yn holi am ymuno â chlybiau ar-ôl-ysgol, rhaglenni gwyliau, a sesiynau syrcas i oedolion. Roedd plant yn cysylltu'r hyn roedden nhw'n ei ddysgu yn y parc â breuddwydion mwy uchelgeisiol (eisiau gwneud “triciau anodd,” mynychu ysgol syrcas, neu hyd yn oed weithio i’r syrcas).
•    Cefnogi Teuluoedd: Roedd rhieni plant niwroamrywiol a rhai â mwy nag un plentyn yn gwerthfawrogi'r ysgogiad, y strwythur, a'r amgylchedd diogel. Dywedodd rhai ei fod yn seibiant hanfodol, gan ddweud bod eu plant yn flinedig, yn fwy llonydd, ac yn hapus wedyn.
✨ Yn gyffredinol: Roedd y sesiynau Syrcas yn y Parc yn creu profiadau llawen, cynhwysol a chofiadwy, gan helpu plant i feithrin hyder, gwydnwch a chyfeillgarwch, a chryfhau cysylltiadau cymunedol. Roedd y rhaglen yn ffordd hygyrch o ymwneud â'r celfyddydau, yn lleihau'r teimlad o fod yn ynysig yn gymdeithasol, ac yn ysbrydoli plant ac oedolion i'w gweld eu hunain fel rhai abl i ddysgu, chwarae a pherthyn.
Crëwyd gan ddefnyddio adborth o Ffurflen Fonitro NFS 2005 a Chat GPT.
Dyfyniadau
"Oes angen talu?" Pan ddywedon ni ei fod am ddim, dechreuodd tri o blant sgrechian yn llawn cyffro a rhedeg atom!
"Dw i'n hoffi chwarae syrcas gyda chi."
"Dw i'n hoffi pacio'r pethau a'ch helpu chi i'w rhoi nhw yn eich car. Gawn ni helpu plis?"
"Dw i wedi breuddwydio erioed am hŵla hŵpio" – mam 20 oed y bu Laine yn ei dysgu i ddefnyddio hŵla hŵp.
"Allwch chi ddod yn ôl i fy ysgol i cyn hir?" (Ysgol Gynradd Adamsdown)
"Mae'n llawer gwell gwneud gweithgareddau y tu allan. Mae'n wych i'r gymuned ac yn gyfle i weithio gyda phobl nad ydych chi'n eu nabod."
"Mae'n lles mawr i'r plant ac mae am ddim. Maen nhw'n defnyddio offer nad oes gennym ni gartref."
"Mae hyn yn berffaith. Rydyn ni wedi'ch gweld chi o'r blaen ond doedden ni ddim yn gallu aros yn hir. Ond heddiw, roedden ni'n bwriadu dod i'r parc am awr, ond yna fe gyrhaeddoch chi ac rydyn ni wedi aros am ddwy awr a hanner! Mae'r plant wedi dysgu triciau, wedi cael hwyl ac wedi llosgi llawer o egni, felly pan awn ni adref nawr byddan nhw'n dawel braf."
