Beth: Celf Cymraeg – byw-luniadu, Artistiaid Drag a Syrcas mewn dillad, Ionawr-Mawrth 2025
Pwy: Oedolion ifanc, LHDTC+, Pobl Niwroamrywiol a Siaradwyr Cymraeg
Ble: NoFit State Caerdydd, Caerdydd, nosweithiau Mawrth am 10 wythnos
Y Cefndir
Mae NFS yn awyddus iawn i ddatblygu prosiectau creadigol yn yr iaith Gymraeg a buom yn cydweithio ag Angharad, Artist a Tizzy, Gwirfoddolwr, sy'n siarad Cymraeg, i greu’r prosiect hwn. Trwy drafod, daethant i'r casgliad bod arnyn nhw eisiau creu gofod diogel i bobl ddefnyddio’r Gymraeg oedd ganddyn nhw ac na ddylai’r sesiynau deimlo fel ‘dysgu ffurfiol’. Roedden nhw'n awyddus i fod yn gynhwysol i bobl LHDTC+ a Niwroamrywiol hefyd.
Sesiynau Celf Cymraeg
Dros 10 wythnos, aeth Angharad a Tizzy ati i greu gofod creadigol a chynhwysol. Buont yn archwilio byw-luniadu a'n cydweithio â modelau o'r gymuned Drag a Syrcas yng Nghymru.
Roeddent yn dysgu mewn ffordd anffurfiol, gan ddadbacio geirfa artistig Gymraeg a dysgu oddi wrth ei gilydd. Roedd rhyddid mynegiant o ran y darlunio ac wrth siarad a dysgu Cymraeg. Nid y canlyniadau oedd yn bwysig, yn hytrach roedd yr amgylchedd yn meithrin creadigrwydd ac yn cyfrannu at y celf a grëwyd. Roedd rhai pobl wedi cael profiad negyddol o ddysgu Cymraeg yn ‘ffurfiol’ yn yr ysgol ond daeth y sesiynau’n daith iachusol iddynt. Daethant yn fwy hyderus i ddefnyddio a siarad Cymraeg, 'heb y barnu na’r cystadlu'.
Ymateb gan Un a Gymerodd Ran
“Wrth edrych ar y lluniau dynnais i o’r dechrau i’r diwedd, roedd yna ddatblygiad i'w weld fel llinell amser. Ro'n i’n gallu gweld fy mod i'n dysgu rhywbeth newydd bob wythnos ac roedd y datblygiad i'w weld yn y lluniau a dynnais.”
Ymateb gan y Tiwtor
"Roedd yn ffordd o ddatblygu fy ngeirfa Gymraeg. Ro'n i'n dysgu geiriau newydd ac fe wnes i fwynhau rhannu'r rhain â'r grŵp. Mae angen rhagor o ofodau creadigol Cymraeg fel hyn arnon ni.
Ymateb gan Wirfoddolwr
“Roedd yn ddifyr iawn darganfod bod geirfa Gymraeg lluniadu technegol mewn maes fel pensaernïaeth yn wahanol iawn i’r eirfa mewn lluniadu a chelf greadigol. Roedd yn hyfryd iawn treulio amser yn darlunio gyda fy mam a ddaeth i’r dosbarth hefyd.”