Mae'r ffrindiau’n sgubo trwy'r dorf i lwyfan gwag, gan chwifio ffyn bambŵ amrywiol a hardd ac yna'n eu defnyddio i adeiladu cartrefi a thyrau i’w dringo, brwydro drostynt, llamu oddi arnynt a throelli o’u cwmpas. Maent yn darganfod bwndeli ac yn eu hagor gan godi cerfluniau tal, 6 metr o uchder sy'n newid ac yn esblygu i fod yn dirwedd symudol lle maent yn ceisio byw bywyd i’r eithaf.
Mae BAMBOO yn sioe unigryw a bydd pawb sy'n ei gweld yn edrych ar leoedd mewn ffordd wahanol. Bydd yr atgof o goedwig fambŵ y syrcas a basiodd drwodd fel corwynt yn golygu na fyddwch chi fyth yn meddwl am stryd na llecyn cyhoeddus yn yr un ffordd eto.
Gobeithio y bydd y prosiect ar gael i fynd ar daith yn haf 2026. Os oes gennych gwestiwn neu os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â Dann.
Bu gwaith Ymchwil a Datblygu Syrcas Bambŵ yn rhan o ymholiad creadigol #ImagineBamboo Is Everywhere 2023.
Cyd-gyfarwyddwyr Artistig Tom Rack (NoFit State Circus) ac Orit Azaz
Cyfarwyddwr Syrcas Mish Weaver
Peiriannydd a Rigiwr Syrcas Tarn Aitken
Cynhyrchydd Dann Carroll
Ymchwil a Datblygu Cyfansoddi Cerddoriaeth Peter Reynolds
Ymchwil a Datblygu Gwisgoedd Emily Redsell
Artistiaid fu'n ymwneud ag Ymchwil a Datblygu eleni
Gemma Creasey, Andy Davies, Felix Fogg, Tiago Fonseca, Manu Melani, Luca Morrocchi, Sarah Jeneway, Sean Kempton, Phoebe Knight, Sam Lebon, Gracie Marshall, Guillem Marti, Nicoló Marzoli, Kevin McIntosh, Aurora Morano, Laura Moy, Lucie N’Duhirahe, Michaela O’Connor, Riccardo Saggese, Rosa-Marie Schmid
Gyda diolch i
101 Outdoor Arts, Breda Louise Glavin, James Doyle-Roberts & Citrus Arts, MAKE North Docks, Pink Kiwi Catering, Joy Dove Wilkinson, Aerial Mel, a Pete Gunson