Mae arnom angen gwirfoddolwyr ar gyfer Gŵyl Parc Fest ddydd Sadwrn 6 Medi yn Nwyrain Caerdydd!
Mae Gŵyl Parc Fest yn ŵyl gelfyddydau gymunedol sy'n cael ei chreu gan bobl Sblot, Adamsdown a Thremorfa, Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches a phobl sy’n byw mewn Llety â Chymorth i ddathlu'r cymunedau hynny.
Os byddwch yn wirfoddolwr, cewch:-
- Helpu i osod safle'r ŵyl a phacio wedyn
- Rhoi help llaw mewn gweithgareddau celf a chrefft
- Helpu i reoli'r dyrfa ac i reoli'r llwyfan ar gyfer perfformadau
- Stiwardio yn ein parêd i lawr Stryd Clifton
- Rhoi cymorth yn y lle gweithgareddau ieuenctid
Trwy wirfoddoli cewch fod yn rhan o ddigwyddiad cymunedol anhygoel a chael profiad ymarferol o'r celfyddydau creadigol.
Bydd timau o wirfoddolwyr yn gweithio shifftiau ar y diwrnod. Os bydd arnoch angen cymorth i gymryd rhan, rhowch wybod i ni.
Os hoffech wybod rhagor ebostiwch [email protected] neu ffonio 02920 221330 a gofyn am aelod o'r tîm cymunedol.