Neidio i'r prif gynnwys
(Facebook Post) (2).jpg

Prosiect y Siôl Unedig

Newyddion | Cymuned | Clifton Street Festival |

Roedd digwyddiad ‘Yn Ôl i'r Stryd’ yn cynnwys siôl drawiadol, ysblennydd, 12.5 troedfedd o hyd, wedi'i chreu o ddarnau a wnaed gan oedolion, plant a phobl ifanc o bob cefndir, oedran a lefel greadigol.

Cafodd y darnau eu creu drwy chwe gweithdy a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ffoaduriaid Oasis, Gerddi'r Rheilffordd, Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot, Ystafell Gymunedol Rhif 28 gyda Mercy Church, Syrcas NoFit State i'r Teulu a Chanolfan Ffoaduriaid y Drindod.

Yna, cafodd y darnau eu cysylltu â’i gilydd gan Ali o Sierra Tailors ar Stryd Clifton, a’u codi ar rig uchel ar ddiwrnod y digwyddiad. Cafwyd perfformiad llafar wedi'i ysbrydoli gan eiriau a ddefnyddiwyd yn ystod y gweithdai.

Cafodd y siôl ei chludo i lawr y stryd wedyn gan Adam the Stiltwalker yng nghwmni Dawnswyr Cwrdaidd.

Photo: Mary Wycherley - Two Cats in the Yard Photography

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×