Yn Ôl i’r Stryd – Awst 2026
Ar 29 Awst 2026, daeth ein dathliad Yn Ôl i’r Stryd â phobl Stryd Clifton – siopwyr, sefydliadau lleol, gwirfoddolwyr a thrigolion – at ei gilydd mewn sbloet lawen a bywiog ar hyd Stryd Clifton, er gwaetha’r glaw!
Roedd tua 200 o berfformwyr, yn cynnwys artistiaid syrcas, corau, bandiau, perfformwyr crwydrol, Parêd Barracwda, drymwyr byrfyfyr a mwy yn rhan o’r digwyddiad i ddathlu’r syrcas a’r gymuned. Cafodd aelodau Dosbarth Perfformio Ieuenctid a Dosbarth Oedolion NoFit State gyfle hefyd i berfformio a datblygu eu sgiliau. Yn ogystal, daeth cast sioe fawr NoFit State, CARNATION, â sgiliau o safon fyd-eang i galon y gymuned – a'r cyfan am ddim.
Roedd aelodau Partneriaeth y Filltir Sgwâr yn cynnig gweithgareddau i blant, stondinau gwybodaeth, gwasanaethau llyfrgell, gazebos, perfformiadau dawns, gemau mawr, mwstasau a mwy.
Daeth y dathliad i ben ag awyrgampwr yn hongian o gerbyd fforchgodi – nodweddiadol o NoFit State!
“Roedd yn ddigwyddiad gwych. Un o’r pethau gorau dwi erioed wedi bod yn rhan ohono! Mor, mor dda. ”
“Roedd yn ddiwrnod anhygoel ac ro’n i mor hapus i fod yn rhan ohono.”
“Digwyddiad ardderchog, wedi’i drefnu’n wych a phawb wrth eu bodd!”
darllen mwy:
Prosiect y Siôl Unedig
Llun gan Two Cats in the Yard Photography
Hoffech chi gymryd rhan?
Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr, pobl greadigol, a phobl leol egnïol a chynhyrchiol i'n helpu i gysylltu â'n cymuned leol a'i hysbrydoli. Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol i weld sut y gallech chi gymryd rhan.
Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd i wirfoddoli – ffoniwch 07530 852520 neu ebostio [email protected]