Yng nghanolfan Circomedia yr hyfforddwyd y rhan fwyaf o'r artistiaid syrcas o Gymru sy’n gweithio yn y diwydiant.
Yn awr, penderfynwyd atal cymorth ariannol i fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn y ganolfan gydnabyddedig ac uchel ei pharch hon sy'n cynnig cyrsiau gradd wedi'u hachredu gan Brifysgol Bath Spa. Yr unig le arall sy’n cynnig llwybr i hyfforddiant proffesiynol yw’r National Centre for Circus Arts yn Llundain.
Yn aml iawn, dewisir astudio yn Circomedia gan ei bod yn agos i Gymru ac yn rhoi mwy o bwyslais ar berfformio. Yn ogystal, does dim rhaid symud i Lundain gyda'r holl gostau ychwanegol cysylltiedig.
Bydd amddifadu Cymry sy'n awyddus i fod yn artistiaid syrcas o'r cyfle i astudio yn Circomedia yn chwalu gobeithion a breuddwydion pobl ifanc sydd wedi ymroi i'w crefft a'u celfyddyd.
Bydd codi rhagor o rwystrau yn ffordd darpar berfformwyr o Gymru yn mygu sector newydd cyffrous sy'n datblygu yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru.
Yn y gorffennol, er mwyn cael perfformwyr medrus ac abl, roedd rhaid i NoFit State gastio llawer o artistiaid rhyngwladol o wledydd sydd â hanes o roi cefnogaeth dda i ysgolion syrcas a lle mae'r gelfyddyd yn gadarnach ac yn cael ei chymryd fwy o ddifrif.
Rydym wrth ein bodd bod 45% o'n cwmni ar gyfer ein sioe newydd yn dod o Gymru, a'r rhan fwyaf ohonynt wedi dod trwy gwrs Circomedia.
Heb gyllid effeithiol, bydd cyfran fawr iawn o artistiaid syrcas Cymru yn bobl wyn, dosbarth canol sy'n gallu fforddio talu am ddosbarthiadau a hyfforddiant.
Heb lwybr hygyrch at addysg i lefel gradd, dim ond pobl eithriadol o freintiedig fydd yn gallu cael gyrfa ym myd syrcas. Yn ogystal, bydd y penderfyniad hwn yn effeithio'n uniongyrchol ar gynlluniau ein pobl ifanc ni’n hunain sydd wrthi'n cael eu hyfforddi mewn dosbarthiadau Syrcas Ieuenctid yn ein canolfan yng Nghaerdydd.
Mae hyfforddiant syrcas yn gofyn am amser, ymroddiad, hyfforddiant arbenigol, offer arbennig, a chyfleusterau addas.
Heb orfod cystadlu am nifer cyfyngedig o lefydd yn Llundain, does dim un ffordd arall y gall person ifanc neilltuo tair blynedd i ddysgu eu crefft a datblygu eu celfyddyd.
Os mai dyma'r unig lwybr sydd ar gael bellach i artistiaid o Gymru, mae'n gam yn ôl o ran cyfle cyfartal ac yn gam yn ôl i sefyllfa celfyddyd yng Nghymru.
Rydym yn galw’n daer ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad hwn sy'n cosbi pobl, aci ganiatáu i’r unigolion hyn, sy’n nifer fach iawn, i gael y cymorth ariannol sydd ar gael i bawb arall.