IMG-20250204-WA0017.jpg

Cynlluniau NoFit State Circus i hybu’r Gymraeg

Rydym yn gwmni syrcas gyfoes o Gaerdydd sy'n perfformio i gynulleidfaoedd ledled y byd yn ein Big Top yn ogystal â chynnig rhaglen gymunedol helaeth o’n canolfan yn Four Elms, Adamsdown.

Mae’r cwmni, a sefydlwyd yn 1986, wedi bod yn adolygu ei ddarpariaeth Gymraeg yn ddiweddar ac mae ganddo gynlluniau cyffrous at y dyfodol.

“Celfyddyd weledol yw syrcas yn bennaf, heb lawer o eiriau, felly rydym bob amser yn gorfod meddwl yn greadigol sut i gynnwys y Gymraeg yn ein gwaith,” esboniodd Jo Taylor, Rheolwr Prosiectau Cymunedol.

“Mae ein dosbarthiadau cymunedol a’n rhaglen gymunedol yn cyrraedd pob math o bobl o Adamsdown, Sblot a Thremorfa, â nifer o geiswyr lloches a ffoaduriaid yn eu plith. Mae'r bobl sy'n cymryd rhan yn siarad llawer o wahanol ieithoedd, felly mae hyn hefyd yn rhywbeth y bu’n rhaid i ni ei ystyried.”

Felly, rydym yn bwriadu cynnig dosbarth sgiliau syrcas i bobl ifanc a hoffai ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae dod o hyd i hyfforddwyr syrcas profiadol sy’n siarad Cymraeg yn dipyn o her.

Penderfynwyd mynd i'r afael â'r her honno ac mae nifer o'r staff craidd, yn cynnwys hyfforddwyr syrcas, yn mynd i ddosbarthiadau Cymraeg, mewn partneriaeth â staff yng nghanolfan Oasis a 'Dysgu Cymraeg'.

Yn ogystal, rydym yn dechrau prosiect ‘Celf Cymraeg’ yn 2025 ac rydym wedi partneru â Menter Caerdydd i drefnu prosiectau creadigol Cymraeg yn Nwyrain Caerdydd a fydd i'w gweld yn Tafwyl ym mis Mehefin 2025.

“Ein gobaith, trwy wneud dysgu Cymraeg yn rhan o ddiwylliant NoFit State, gan gynnwys ein rhanddeiliaid a'n staff rhyngwladol, a gwreiddio diwylliant Cymru yn ein gwaith creadigol, yw y gallwn ddangos ein hymrwymiad i hyrwyddo’r iaith yng Nghymru ac wrth fynd ar daith i fannau eraill.”

Gallery

    IMG-20250204-WA0021.jpg IMG-20250204-WA0020.jpg IMG-20250204-WA0019.jpg IMG-20250204-WA0018.jpg IMG-20250204-WA0022.jpg IMG-20250204-WA0017.jpg