Atgofion am y tro cyntaf i mi weithio ar ddigwyddiad fel Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu yn NoFit State Circus.
Os ydych yn byw ger Adamsdown, mae'n rhaid eich bod wedi gweld y goleuadau bach hudolus yn disgleirio ym Mharc y Bragdy rai wythnosau yn ôl, ar 25 Chwefror i fod yn fanwl. Rwy am fynd â chi drwy'r diwrnod hwnnw, hel atgofion hyfryd a rhoi cipolwg i chi ar y gwaith y tu ôl i'r llenni! Ar ddechrau'r diwrnod roedd pawb yn llawn cyffro ac ychydig bach yn nerfus wrth i’r tîm wneud y paratoadau munud olaf. Gosod byrddau a goleuadau, codi posteri amlieithog, pobl yn dod atom â chwilfrydedd a chyffro yn eu llygaid.
Park Light oedd y digwyddiad cyntaf i mi weithio arno gyda NoFit State Circus. Ar ôl cwpwl o fisoedd gyda'r cwmni, roedd yn ffordd i mi ymgolli'n llwyr yn y golygfeydd a gwylio'r effaith yn y fan a'r lle. Daeth yn amser cynnau'r goleuadau, dechreuodd pobl gymryd rhan, roedd siocled poeth a chacennau yn cael eu rhannu, dechreuwyd gweithdai yng ngolau cannwyll, ac yn bwysicaf oll daeth yn bryd dechrau'r Syrcas!
Rhan orau'r diwrnod oedd gweld pawb yn gwenu ac yn cael eu swyno gan y syrcas. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi fod yr ymdeimlad o gymuned i’w deimlo yn yr awyr y diwrnod hwnnw. Ar ben hynny, gwnaeth y digwyddiad hwn i mi sylweddoli faint o lawenydd sydd i'w gael o dreulio amser gyda'r gymuned a rhannu eu hoff gacennau siocled.