Volunteer-Blog-Image.jpg

Cyfle i gwrdd â'n gwirfoddolwyr

Yn 2024, cafodd NoFit State gyllid ar gyfer Rhaglen Wirfoddoli o Gynllun Prif Grantiau Gwirfoddoli Cymru, Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Llwyddwyd i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a chyffrous er mwyn i bobl gael profiad ymarferol mewn digwyddiadau ac yn y diwydiant creadigol.

Image (1).jpeg

Sara

Beth rwyt ti'n ei wneud yn NoFit State?

Rwy'n helpu yn y Croeso Cymunedol wrth baratoi bwyd, snacs a diodydd.  Rwy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau hefyd.  

Sut wnest ti ddechrau gwirfoddoli?  A fyddet ti'n argymell gwirfoddoli? Pam mae'n bwysig i ti?

Roedd gen i ormod o amser sbâr ac roedd arna i eisiau gwirfoddoli'n lleol.  Soniodd ffrind wrtha i am NoFit State a fy rhoi mewn cysylltiad â Jo. Byddwn yn sicr yn argymell gwirfoddoli gan ei fod yn gwneud lles mawr yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol.

Pa effaith mae gwirfoddoli yn NoFit State wedi'i chael arnat ti?  Pa sgiliau rwyt ti wedi'u dysgu/datblygu?

Mae wedi fy helpu i fod yn fi eto ac wedi rhoi hwb mawr i fy hyder.  Rwy wedi cyfarfod â phobl wych sydd â gwahanol dalentau a sgiliau.  Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle arbennig hwn.

Image.jpeg

Kevin 

Beth rwyt ti'n ei wneud yn NoFit State?

Rwy'n gwirfoddoli yn y Croeso Cymunedol. Rwy'n helpu i osod y lle i blant chwarae ac ymlacio.  Rwy'n helpu wrth groesawu a chyfarch y bobl a'r teuluoedd.  Rwy'n helpu i wneud a gweini snacs a chinio.  Rwy'n chwarae caneuon ar yr iwcalili ac yn canu gyda'r plant.  Rwy’n helpu i gefnogi’r oedolion ag ymarferion llesiant ac rwy'n siarad Cymraeg.

Sut wnest ti ddechrau gwirfoddoli? A fyddet ti'n argymell gwirfoddoli? Pam mae'n bwysig i ti?

Ar ôl ymddeol o fy swydd, penderfynais chwilio am waith gwirfoddol i lenwi rhywfaint o fy amser. Ddois i ar draws y lleoliad hwn ac un arall trwy wefan Gwirfoddoli Cymru.  Byddwn i'n argymell i bobl eraill wirfoddoli gan fod modd dewis oriau a lefel sy’n addas i chi.  Rwy'n mwynhau bod gyda phobl ac mae cyfleoedd gwych yn y mannau lle rwy'n gwirfoddoli.

Pa effaith mae gwirfoddoli yn NoFit State wedi'i chael arnat ti? Pa sgiliau rwyt ti wedi'u dysgu/datblygu?

Ar lefel sylfaenol, mae gwirfoddoli yn fy nghadw i'n brysur.  Dw i ddim yn hoffi bod yn segur.  Rwy'n cwrdd â phobl arbennig iawn – pawb â'u straeon i'w rhannu.

Doedd gen i ddim profiad gyda phlant bach cynt, felly rydw i wedi dysgu llawer am faterion diogelu plant, y pethau mae plant yn mwynhau eu gwneud, helpu plant i rannu a chwarae gydag eraill a phryd mae angen iddyn nhw ymdawelu.

Pam ddylwn i wirfoddoli gyda NoFit State?

  • Bod yn rhan o dîm cyfeillgar, hwyliog.
  • Cyfle gwych i gael profiad ymarferol mewn digwyddiadau ac yn y diwydiant creadigol.
  • Does dim angen profiad blaenorol! Byddwn ni'n cynnig hyfforddiant llawn, ac fe gewch gefnogaeth ein tîm craidd profiadol trwy'r amser.
  • Byddwn yn cydweithio â chi i sicrhau bod eich profiad o wirfoddoli yn addas ar gyfer eich anghenion, eich sgiliau a'ch targedau.
  • Gallwn ad-dalu mân dreuliau rhesymol fel costau teithio.

Hoffem recriwtio rhagor o wirfoddolwyr o Adamsdown, Sblot a Thremorfa ac os oes gennych anghenion o ran hygyrchedd (access) neu gefnogaeth, soniwch wrthym fel y gallwn eich cefnogi wrth wirfoddoli.

Os hoffech wybod mwy a chael sgwrs am gymryd rhan, ebostiwch [email protected] neu ffonio 02920 221 330